Newyddion S4C

Dartiau: Luke Littler yn creu hanes wrth ennill Pencampwriaeth y Byd

Luke Littler

Mae Luke Littler wedi creu hanes wrth fod y chwaraewr ifancaf i ennill Pencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC.

Fe gurodd Littler, sy’n 17 oed, Michael van Gerwen, sydd wedi ennill y bencampwriaeth deirgwaith, o 7-3 ym Mhalas Alexandra yn Llundain nos Wener.

Fe aeth Littler, o Warrington yn Lloegr, ar y blaen o 4-0, ac er i van Gerwen o’r Iseldiroedd daro nôl, nid oedd yn gallu dygymod â chwarae Littler oedd yn canfod y dyblau yn fwy cyson.

Van Gerwen oedd y pencampwr ifancaf blaenorol pan enillodd yn 2014 yn 24 oed.

Fe daflodd Littler 180au 12 o weithiau wrth iddo hawlio’r wobr o £500,000 a chodi Tlws Sid Waddell am y tro cyntaf.

Y Cymro Huw Ware o'r Barri oedd y dyfarnwr yn yr ornest.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.