Newyddion S4C

Dwy fydwraig yn sylweddoli wrth weld llun bod un wedi helpu i eni'r llall

Bydwragedd

Roedd dwy fydwraig o Abertawe wedi bod yn cydweithio ers chwe blynedd cyn sylweddoli ar ddamwain wrth weld llun bod un wedi helpu i eni'r llall.

Mae Sharon Cooling a Katie Wintle wedi bod yn cydweithio yn Ysbyty Singleton ers 2016.

Cafodd y ddwy sypreis pan ddaeth i’r amlwg mai Sharon ei hun oedd bydwraig mam Katie, Sally ar ddydd ei geni.

Daeth y cyd-ddigwyddiad yn amlwg ar ôl i Katie ddod yn feichiog ei hun gyda’i mab, Luca.

Wrth iddi hi a’i theulu hel atgofion drwy edrych ar hen luniau, daeth Katie ar draws llun ohoni ar ddydd ei geni - ym mreichiau dynes oedd â wyneb cyfarwydd.

Image
Sharon a Katie
Hen lun o Sharon a Katie (Llun: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)

Dywedodd Katie: “Roeddwn i’n gwybod yn syth pwy oedd honno. Yn syth bin roeddwn i'n gwybod mai Sharon oedd hi."

Anfonodd ei mam, Sally, gopi o’r llun at Sharon pan aned Katie.

Meddai Sharon: “Cyn gynted ag y gwelais y llun, fe wnes i ei adnabod ar unwaith a thynnu fy nghopi allan. 

“Mae gen i focs o bethau mae merched wedi eu rhoi i mi dros y blynyddoedd… rwy'n cofio'r diwrnod y ganwyd Katie, yr ystafell yr oeddem ynddi a'i rhieni yn glir iawn.

“Cefais fy synnu’n fawr o ddysgu hyn ar ôl gweithio gyda’n gilydd cyhyd.

“Nid bob dydd y byddwch yn dod ar draws rhywun a ddilynodd yr un yrfa â chi, ac yr oeddech yno pan gawsant eu geni.”

Image
Sharon yn dal y llun
Sharon Cooling yn dal ei chopi hi o'r llun (Llun: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)

Cafodd Katie ei hyfforddi fel bydwraig yn Bournemouth cyn symud yn ôl i Abertawe i weithio yn Ysbyty Singleton yn 2016.

Dywedodd: “Roeddwn i wedi gweithio gyda Sharon ers cymaint o amser, gan ddysgu cymaint ganddi trwy’r amser, a doedden ni ddim wedi sylweddoli ein bod ni'n rhannu cysylltiad arbennig.

“Nawr ein bod wedi darganfod hyn, mae’n golygu cymaint i’r ddwy ohonom.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.