Newyddion S4C

Cyfres newydd yn gofyn 'Beth sy'n gwneud y ci perffaith?'

Y Ci Perffaith

'Beth sy'n gwneud y ci perffaith?'

Dyna'r cwestiwn y bydd y cyflwynydd Heledd Cynwal a’r arbenigwr cŵn Dylan Wyn Davies yn gobeithio ei ateb ar eu cyfres newydd Y Ci Perffaith.

Ond mae'r ateb yn dibynnu ar y perchnogion, medden nhw, wrth iddyn nhw fynd ati i ddewis ci ar gyfer pedwar teulu. 

Bydd Dylan yn mynd ati i ddod o hyd i ddau gi addas ar gyfer bob teulu, gan roi'r cyfle iddyn nhw dreulio peth amser gyda'i gilydd cyn gwneud penderfyniad.

Yna, chwe mis yn ddiweddarach, bydd Heledd yn dychwelyd i'w cartrefi er mwyn gweld sut mae’r ci wedi setlo gyda’r teulu.

Mae un o bob chwech o berchnogion anifeiliaid anwes wedi cyfaddef eu bod yn difaru dewis eu brîd anifeiliaid anwes, yn ôl astudiaeth.

Sut i ddewis y ci perffaith?

Yn ôl Dylan Wyn Davies, does "dim one size fits all gyda chi".

"Os am ateb cwestiwn am y ci perffaith mae angen ystyried y ci – y math o gi yw e, oed y ci, pwy mor iach yw’r ci," meddai.

"Felly gan gadw hynny mewn cof, dyma rhai o’m tips i ar gyfer byw gyda chi."

Math o gi

Dywedodd Dylan fod angen dewis y math o gi'n ofalus.

"Mae rhai cŵn angen mwy o ymarfer corff e.e. Cocker Spaniel neu Labrador, a chŵn eraill ddim angen cymaint o ymarfer e.e. Daschund neu Chihuaua," meddai.

"Mae ffordd o fyw'r perchennog am effeithio ar ymarfer y ci, fel enghraifft ces i un fenyw wedi ymddeol eisiau Cockapoo, wnes i ei chynghori i beidio gan bod y cyfuniad o Poodle a Cocker angen o leiaf dwy neu dair awr o ymarfer corff y dydd, ac os ddim yn cael yr ymarfer corff maen nhw’n mynd yn ddinistriol gan eu bod angen gwaredu yr egni – felly mae math neu breed o gi a ffordd bywyd y perchennog yn gyfuniad pwysig dros ben."

Danteithion i'r ci

"Mae treats yn iawn i raddau, pan yn rhoi clod i'r ci – dysgu'r ci i eistedd, gorwedd, aros – mae gwobrwyo'r ci yn iawn," meddai.

"Mae’n iawn rhoi treat bob hyn a hyn, fydden i yn cynghori rhai naturiol – danteithion air dryed yn hytrach na rhai wedi eu berwi neu sychu gan fod cemegau yn rhain. Mae fy nghi i yn cael clust cwningen bob yn ail ddydd a’r blew sydd ar y glust yn ffordd naturiol i gael gwared ar lyngyr. 

"Ond dyw amrwd ddim yn addas i bob ci chwaith."

Golchi'r ci 

Yn ôl Dylan, mae pa mor aml rydych chi angen golchi'r ci yn ddibynnol ar y brid.

"Peidiwch golchi bob dydd gan bod angen yr olew naturiol ar y croen a’r blew," meddai.

"Mae’n iawn rinso’r ci gyda dwr lled gynnes, ond does dim angen siampŵ yn rhy aml.

"Mae bwyd iachus yn golygu cot iachus i'r ci, jyst fel y perchennog – you are what you eat."

Ychwanegodd bod angen cofio golchi pawennau'r ci yn ystod y gaeaf yn sgil graean ar y ffyrdd.

Baw ci

Dywedodd Dylan ei fod yn bwysig cofio codi baw ci.

"Cofiwch fynd â chwdyn baw ci pan yn mynd â’r ci am dro. Yr hyn sy’n waeth na baw ci ar y ffordd yw cwdyn â baw ci ynddo fe ar y ffordd," meddai.

"Mae angen gwaredu’r cwdyn yn iawn ar ôl casglu’r baw – mae bagiau biodegradable i'w cael erbyn."

Mae'r arbenigwr cŵn hefyd yn argymell gwneud ymchwil i argaeledd milfeddygon lleol, ac os oes help llaw ar gael i edrych ar ôl y ci.

Bydd Y Ci Perffaith ar S4C dydd Llun 6 Ionawr am 20.25.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.