Dau fachgen 15 oed wedi’u cyhuddo o ddwyn car ar ôl gwrthdrawiad chwe cherbyd
Bydd dau fachgen yn ymddangos gerbron llys ieuenctid ym mis Chwefror ar ôl cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â lladrad car ar ôl gwrthdrawiad rhwng chwe cherbyd.
Galwyd swyddogion ar ôl i gar - Volvo XC90 - gael ei gymryd o gyfeiriad yng Nghwm Rhymni fis Medi diwethaf.
Roedd y car wedi ei gymryd o Stryd Lewis, Ystrad Mynach tua 18.00 ar ddydd Llun 30 Medi.
Cafodd Heddlu Gwent wybod wedyn am wrthdrawiad yng Ngelligaer, a oedd yn ymwneud â chwech o gerbydau, ar yr un diwrnod.
Ymysg y cerbydau a oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad roedd Volvo XC90, fan Ford Transit, Ford Focus a Volkswagen Beetle yn ogystal â dau gar wedi parcio – BMW 525D a Volvo XC40.
Arestiwyd bachgen 15 oed o ardal Gelligaer ar amheuaeth o'r drosedd waethygol (aggravated offence) o gymryd cerbyd.
Yn ddiweddarach arestiwyd bachgen o Gil-y-coed, a oedd yn 14 oed ar y pryd, ar amheuaeth o'r drosedd waethygol o gymryd cerbyd a gwneud difrod o £5,000 neu fwy i gerbyd.
Cafodd ei arestio hefyd ar amheuaeth o yrru cerbyd modur yn beryglus, gyrru cerbyd modur mewn ffordd nad yw’n unol â thrwydded, defnyddio cerbyd modur ar y ffordd neu mewn man cyhoeddus heb yswiriant trydydd parti.
Cyhuddwyd y ddau fachgen o’r troseddau yma a chawsant eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Byddant yn ymddangos gerbron Llys Ieuenctid Cwmbrân ddydd Mawrth 4 Chwefror.