Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wedi gwrthdrawiad yn Llanpumsaint
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wedi gwrthdrawiad a laddodd dyn 38 oed yn Llanpumsaint, Sir Gâr.
Bu farw Aaron Jones ar 23 Rhagfyr 2024 ar ôl cael ei daro gan gar tra'r oedd yn cerdded ar ffordd wledig gyda'i gi ddeuddydd cyn y Nadolig.
Fe wnaeth Daniel Wyke, 28 oed o Lanybri yn Sir Gâr ymddangos yn Llys yr Ynadon Llanelli ddydd Iau ar gyhuddiad o achosi ei farwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Yn gwisgo cot las dywyll a siwmper lwyd, siaradodd i gadarnhau ei enw a'i oedran a ni wnaeth gyflwyno ple.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 16 Chwefror.
Dan amodau ei fechnïaeth nid oes modd i Mr Wyke ymyrryd gyda tystion yr erlyniad, ni fydd yn gallu teithio i Lanpumsaint, na yrru car ar y ffordd na chwaith mewn man cyhoeddus.
Fe gafodd Daniel Wyke ei arestio ddiwrnod wedi'r gwrthdrawiad ar 23 Rhagfyr 2024, cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ddiwrnod Nadolig.
Roedd cwest i farwolaeth Aaron Jones ar 14 Ionawr y llynedd wedi clywed bod ei gorff wedi cael ei ddarganfod ym mhentref Llanpumsaint.
Fe gafodd y cwest ei ohirio ar y pryd wrth i ymchwiliadau'r heddlu barhau.
Llun: Daniel Wyke a Llys Ynadon Llanelli.