Aelod blaenllaw o'r Blaid Geidwadol yn cael ei ddiswyddo o'r cabinet cysgodol
Mae aelod blaenllaw o'r Blaid Geidwadol wedi cael ei ddiswyddo o fainc flaen y blaid yn y Senedd yn San Steffan am "gynllun cyfrinachol i adael y blaid".
Mae Robert Jenrick hefyd wedi colli Chwip y Torïaid.
Mae Mr Jenrick wedi bod yn aelod ym mhob llywodraeth Geidwadol ers arweinyddiaeth Theresa May mewn nifer o rolau gwahanol, gan gynnwys Ysgrifennydd Tai a Gweinidog Mewnfudo.
Dywedodd arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch: "Rwyf wedi derbyn tystiolaeth glir, ddiamheuol fod yr aelod wedi bod yn cynllwynio'n gyfrinachol i ddiffygio mewn ffordd a gynlluniwyd i fod mor niweidiol â phosibl i'w gydweithwyr yn y cabinet cysgodol a'r Blaid Geidwadol ehangach."
Mae Mr Jenrick wedi bod yn weinidog cysgodol y blaid dros gyfiawnder ers mis Tachwedd 2024.
Fe aeth Ms Badenoch ymlaen i ddweud: "Rydw i, fel y cyhoedd ym Mhrydain, wedi blino ar ddramâu yn y byd gwleidyddol.
"Maen nhw wedi gweld gormod o lawer ohono yn y llywodraeth ddiwethaf, ac maen nhw'n gweld gormod ohono yn y llywodraeth hon hefyd."
Roedd Mr Jenrick wedi brwydro yn etholiad arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn 2024 yn erbyn Badenoch, ac fe gollodd ar ôl sicrhau 43.5% o'r pleidleisiau i 56.5% Badenoch.
Nid yw sylwadau arweinydd y Blaid Geidwadol yn cyfeirio at ba blaid roedd Mr Jenrick yn bwriadu ymuno â hi, ond mae'r gwleidydd yn cael ei adnabod fel un sydd heb fod ymhell o blaid Reform.
Mae arweinydd y blaid honno, Nigel Farage, wedi dweud fore Iau ei fod wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda nifer o aelodau amlwg y Blaid Geidwadol dros yr wythnos diwethaf.
Llun: PA Wire