Llinos Medi AS yn ymateb i i ddelwedd AI 'amhriodol' ohoni ar gyfryngau cymdeithasol
Mae Aelod Seneddol Ynys Môn wedi dweud ei bod yn "bryderus" am y camddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI) yn y byd gwleidyddol ar ôl i ddelwedd "amhriodol" ohoni gael ei greu a'i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fe ddefnyddiodd Llinos Medi AS y profiad o ddarganfod llun ohoni ei hun wedi'i addasu gan declyn ddeallusrwydd artiffisial fel cyfle i wneud pwynt ehangach am beryglon AI.
"Oedd o'n deimlad o fod rhywun yn ymyrryd efo fy mywyd personol ag oedd o'n deimlad erchyll," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"Oedd o'n deimlad o bo' fi wedi colli rheolaeth o bwy oeddwn i achos bod rhywun arall efo'r grym i wneud hynny.
"A be' oedd yn gwneud o'n waeth oedd bod 'na ryw ymdeimlad a bod hynny yn dderbyniol."
Dros yr wythnosau diwethaf mae nifer o fenywod wedi gweld lluniau go iawn ohonyn nhw'n cael eu haddasu a'u troi yn lluniau o natur rywiol ac atgas.
Nos Fercher mae platfform X wedi cyhoeddi na fydd y teclyn deallusrwydd artiffisial Grok yn gallu cael ei ddefnyddio i greu delweddau rhywiol o bobl go iawn.
Daw hyn wedi i’r rheoleiddiwr Ofcom ddweud eu bod nhw’n ymchwilio, ac i Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, fygwth gwahardd y platfform.
'Pobl angen y wybodaeth cywir'
Fe wnaeth Llinos Medi AS godi'r pwnc yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog yn San Steffan brynhawn Mercher yn sgil ei phryderon.
Mae hi'n dweud bod angen i Lywodraeth y DU fonitro platfformau cyfryngau cymdeithasol yn ofalus wrth i ddeallusrwydd artiffisial addasu.
"Os ydi'r ymddygiad yn rhywbeth sydd yn tarfu ar be' sydd yn gyfraith gwlad, mae'n rhaid ni ymateb i hynny," meddai ar Radio Cymru.
"'Da ni'n gwybod dros y miosedd diwethaf mae technoleg wedi symud yn andros o sydyn ac mae'n mynd i fod yn anodd i unrhyw lywodraeth fod yn deddfu'n amserol efo hyn, ond mae 'na gwestiwn ynglyn ag egwyddor yr ymddygiad hefyd - a dyna be' sy'n bwysig, bo' ni'n dal i gadw at ein hegwyddorion."
Dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn ei bod yn poeni am sut mae deallusrwydd artiffisial yn effeithio ar y byd gwleidyddol.
"Mae o'n andros o bryderus oherwydd ein rôl ni yn fan 'ma ydi rhannu gwybodaeth a rhannu gwybodaeth cywir a be' 'da ni'n gweld yn fan 'ma ydi gwybodaeth ffug yn cael ei rannu - oeddan ni'n gweld o yn gynt, ond bod AI wan yn cyflymu'r gwybodaeth yna," meddai.
"Dyna pam mae'n bwysig i ni fod ar y platfformau yma er mwyn i ni gywirio unrhyw wybodaeth ffug sydd yna, er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw blatfform cymdeithasol fel hyn efo cydbwysedd o wybodaeth.
"Achos os 'da ni ddim yn sicrhau bo' ni yna'n rhannu'n negeseuon ni, fydd y celwydd yn carlamu ac wrth i'r celwydd garlamu mi fyddan ni'n colli gafael."
Ychwanegodd: "Mae pobl angen y wybodaeth cywir i ddod i benderfyniad eu hunain.
"'Da ni wedi gweld dros y dyddiau diwethaf 'ma, mae'r ymdeimlad o freedom of speech 'ma, mae o fatha bo' ni'n amddifadu rhywun.
"Be' sydd yn bwysig ydi bod unrhyw blatfform yn rhoi freedom of speech, ond bod hwnnw yn gywir, bod hwnnw ddim yn gelwydd."
Er gwaethaf digwyddiadau'r wythnosau diwethaf, mae Llinos Medi AS yn dweud y bydd yn parhau i ddefnyddio platfform X.
"Dwi'n adolygu fy nefnydd i o blatfformau drwy'r adeg ac mae hwn yn un o rheini lle mae rhywun yn teimlo'n gryf iawn bod angen i ni sicrhau bod y gwirionedd yn dod drwadd ar blatfform fel hyn neu mi fydda ni'n creu echo chamber hynod o beryglus i ni'n hunain," meddai.
"Dydw i ddim yn defnyddio llawer ohono fo'n bersonol ond mae o yna achos fy swydd ac os fyswn i ddim yn aelod etholedig fyswn i ddim ar y platfform yna.
"Ond yn anffodus yn fy swydd mae'n rhaid i fi rannu gwybodaeth gyda'm trigolion ac mae'n rhaid i mi wneud hynny yn y ffordd fwyaf didwyll a phosib ar y platfformau yna."