Dyn yn pledio'n euog i drywanu menyw o Gaerdydd i farwolaeth
Mae dyn wedi pledio'n euog i lofruddio menyw o Gaerdydd a gafodd ei thrywanu i farwolaeth y llynedd.
Fe wnaeth Alireza Askari, 42 oed, gyfaddef iddo lofruddio Paria Veisi, 37, yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau.
Cafodd Ms Veisi ei gweld ddiwethaf wrth adael ei gwaith ym mis Ebrill y llynedd a chafodd ei darganfod yn farw mewn tŷ yn ardal Penylan o'r brifddinas.
Mae Askari, o Benylan, wedi pledio'n euog hefyd i gyhuddiad o atal claddedigaeth gyfreithlon a gweddus o gorff marw.
Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 13 Chwefror yn Llys y Goron Abertawe.
Wrth annerch Askari, dywedodd y barnwr Mrs Justice Stacey: "Da iawn am bledio’n euog, gwell hwyr na hwyrach.
"Bydd yn cael ei adlewyrchu i ryw raddau yn yr ymarfer dedfrydu."
Dyfarnwyd bod cyhuddiad pellach o ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol i’w gadw ar gofnod.
Fe wnaeth ei gyd-ddiffynnydd, Maryam Delavary, 48, o White City yn Llundain, bledio'n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder yn flaenorol.
Dywedodd Heddlu'r De fod Ms Veisi wedi’i hadrodd ar goll ar ôl gadael ei gweithle yn ardal Treganna o Gaerdydd ar 12 Ebrill 2025.
Clywodd cwest a agorodd ym mis Mai'r llynedd mai casgliad cychwynnol achos ei marwolaeth oedd clwyfau trywanu i’r gwddf a rhan uchaf y frest.