Newyddion S4C

Carchar am oes i ddyn o Abertawe am lofruddio dyn arall yng Ngorseinon

Christopher Cooper

Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio dyn arall yng Ngorseinon y llynedd.

Fe wnaeth Christopher Cooper, 39 oed, fwrw Kelvin Evans yn ei ben gyda'i ddwrn y tu allan i Westy'r Station ar 26 Mai.

Roedd Mr Evans yn anymwybodol ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty, ond gwaethygodd ei gyflwr a bu farw’n ddiweddarach ar 26 Mehefin.

Plediodd Cooper yn euog i ddynladdiad, ond fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth yn ddiweddarach.

Mae partner Cooper, Catherine Tracy Francis, 54 o Lanelli, hefyd wedi'i chael yn euog o gynorthwyo troseddwr mewn ymgais i atal ei erlyniad.

Mae Cooper bellach wedi derbyn dedfryd o garchar am oes, gyda lleiafswm o 16 mlynedd dan glo.

Mae Francis wedi derbyn dedfryd o ddwy flynedd yn y carchar.

Image
Kelvin Evans
Bu farw Kelvin Evans, 64, wedi'r ymosodiad ym mis Mai 2024

Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt ei fod yn falch o weld bod cyfiawnder wedi’i wneud yn y llys.

"Mae ymosodiad disynnwyr Christopher Cooper wedi costio bywyd Kelvin Evans ac wedi gwneud niwed mawr i fywydau ei deulu a’i ffrindiau," meddai.

"Dylai Kelvin Evans fod wedi gallu dychwelyd adref yn ddiogel at ei deulu yn dilyn noson allan ar nos Sul ym mis Mai y llynedd.

"Ond yn lle hynny, ni fydd ei deulu byth yn gallu anghofio'r noson honno. 

"Gobeithio y cânt rywfaint o gysur o’r ddedfryd heddiw, ac y gallant nawr ddechrau galaru am golli Kelvin."

Image
Catherine Francis
Mae Catherine Francis wedi derbyn dedfryd o ddwy flynedd yn y carchar

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd David Butt: "Hoffwn ddiolch i reolwr a staff Gwesty’r Orsaf, Gorseinon, a aeth i gynorthwyo Kevin yn dilyn yr ymosodiad ac a roddodd gefnogaeth a chymorth hanfodol i ymchwiliad yr Heddlu.

"Mae cymryd cyffuriau ac yfed gormod o alcohol yn effeithio ar eich penderfyniadau. Gall wneud pobl yn agored i ddod yn ddioddefwr neu'n gyflawnwr.  

"Fel y mae'r achos hwn a chymaint o rai eraill yn y gorffennol wedi dangos, gall un dwrn yn unig gael effaith sy'n newid bywyd yn llwyr ar y troseddwr a'r dioddefwr. Mewn eiliad, gall rhywun ladd, a chael ei ladd.

"Os byddwch chi byth yn cael eich hun yn y sefyllfa hon, rydyn ni’n eich annog: os gwelwch yn dda, cymerwch gam yn ôl, a cherdded i ffwrdd."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.