Rhybudd ambr am eira 'trwm' a 'chyson' i rannau o Gymru dros y penwythnos
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd ambr am eira 'trwm' a 'chyson' i rannau o Gymru dros y penwythnos.
Bydd y rhybudd mewn grym o 18.00 ddydd Sadwrn nes hanner dydd ddydd Sul.
Bydd y rhybudd ambr yn effeithio ar bob sir yng Nghymru heblaw am Ynys Môn, ond nid oes rhybudd ar gyfer ardaloedd arfordirol tu hwnt i'r gogledd orllewin.
Roedd y Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer Cymru gyfan o hanner dydd ddydd Sadwrn nes hanner nos ddydd Sul, gan ddweud y gallai bron i droedfedd o eira syrthio ar dir uchel yn y canolbarth a’r gorllewin.
"Tra bod peth ansicrwydd o hyd, mae 3-7 cm o eira yn debygol ar gyfer llawer o'r ardal sy'n rhan o'r rhybudd, gyda 15-30 cm yn lleol ar dir uwch Cymru a'r Pennines," meddai'r Swyddfa Dywydd.
"Gallai glaw rhewllyd arwain at iâ mewn mannau, yn enwedig mewn rhannau o Gymru, cyn i’r aer mwynach arwain at ddadmer cyflym tua'r de ddydd Sul."
Daw'r rhybudd eira wedi i rybudd am rew mewn rhannau o’r gogledd ddod i ben am 10.00 fore dydd Gwener. Mae rhybudd newydd am rew bellach wedi ei gyhoeddi rhwng 16.00 ddydd Gwener a 10.00 ddydd Sadwrn.
Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi cyhoeddi rhybuddion iechyd tywydd oer ledled Lloegr.
Mae rhybuddion oren wedi'u cyhoeddi o 12pm ddydd Iau tan Ionawr 8. Nid yw'r corff yn gyfrifol am rybuddion tywydd oer yng Nghymru.