‘Diffyg egni a chyfeiriad’ i darged 1m o siaradwyr Cymraeg gyda 25 mlynedd i fynd
‘Diffyg egni a chyfeiriad’ i darged 1m o siaradwyr Cymraeg gyda 25 mlynedd i fynd
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu “diffyg egni a diffyg cyfeiriad” Llywodraeth Cymru wrth gyrraedd 1m o siaradwyr Cymraeg, gyda chwarter canrif yn unig i fynd nes cyrraedd eu terfyn amser.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n parhau yn ymrwymedig i gyrraedd y targed erbyn 2050 er gwaethaf cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng nghyfrifiad 2021.
Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn mynd â cherdyn Flwyddyn Newydd i swyddfa'r prif weinidog Eluned Morgan yn Hwlffordd ddydd Gwener.
Y nod medden nhw oedd galw arni i wneud mwy i gyrraedd y nod.
Dywedodd Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith wrth siarad ar Radio Cymru bod “gosod targed yn un peth ond mae angen gweithredu er mwyn cyrraedd y targed”.
“Ond yn 2021 fe welson ni ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, yn groes i beth oedd y llywodraeth wedi ei ddarogan,” meddai.
Dywedodd nad oedd y llywodraeth wedi gosod unrhyw darged o ran faint o blant ddylai fod mewn addysg erbyn 2050.
“Maen nhw’n gwneud pethau sy’n edrych yn debyg i weithredu ond mae yna inertia yn y llywodraeth ar y polisi iaith - diffyg egni a diffyg cyfeiriad,” meddai.
“Felly da ni’n gobeithio yn y flwyddyn newydd atgoffa'r Prif Weinidog Eluned Morgan sy’n gyfrifol yn y pen draw am y polisi yma o’r angen i weithredu yn llawer mwy uchelgeisiol er mwyn cyrraedd y targed.
“O ran addysg Gymraeg mae’r cynnydd yn y 30 mlynedd diwethaf wedi bod yn druenus o isel mewn gwirionedd.
“Mae 80% o blant Cymru yn dal i adael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg.
“Pan osodwyd y targed yn wreiddiol roedd pobl yn llawn cyffro nid yn unig yng Nghymru ond yn rhyngwladol,” meddai.
“Ond wrth i amser fynd ymlaen mae pobl yn meddwl bod y llywodraeth jest yn gosod targed a ddim yn gwneud llawer am y peth.
“Mi ydan ni eisiau dweud wrth y llywodraeth nad yw hi’n rhy hwyr ond mae angen bod yn llawer mwy uchelgeisiol.”
‘Cynnal’
Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru fod y “Gymraeg yn perthyn i ni i gyd”.
“Rydym wedi ymrwymo i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu defnydd dyddiol o’n hiaith erbyn 2050,” medden nhw.
“Byddwn yn gwneud hyn drwy barhau i weithio ar draws y Llywodraeth a thu hwnt i flaenoriaethau Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), i gynnig gwersi Cymraeg am ddim i filoedd o bobl ifanc a’r gweithlu addysg, i gynnal ein cymunedau Cymraeg, i gynyddu defnydd iaith ym mhob ardal a chyd-destun ac i ddatblygu technoleg iaith.”