Plentyn mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdawiad mewn maes parcio yn Sir Benfro
Mae dyn wedi ei arestio a phlentyn mewn cyflwr ‘critigol’ yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad mewn maes parcio yn Sir Benfro.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i wrthdrawiad ar lawr gwaelod maes parcio aml-lawr yn Ninbych-y-pysgod, sydd drws nesaf i Sainsbury’s.
Roedd car Nisan Quashqai llwyd a phlentyn ifanc yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Mae dyn 33 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus, yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa, meddai'r llu.
Ychwanegodd Heddlu Dyfed-Powys bod y plentyn ifanc mewn cyflwr critigol yn yr ysbyty a bod teulu'r plentyn yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Pwysleisia'r heddlu bod eu hymchwiliad yn parhau ac i beidio â dyfalu am yr hyn a ddigwyddodd.
Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau cylch cyfyng cysylltu gyda'r heddlu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 25*6238”.