Newyddion S4C

Wayne Osmond o The Osmonds wedi marw yn 73 oed

Wayne Osmond

Mae Wayne Osmond, un o aelodau gwreiddiol y band The Osmonds, wedi marw yn 73 oed.

Bu farw ar ddydd Calan ar ôl dioddef strôc, meddai ei deulu mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe ddaeth Wayne Osmond yn enwog fel aelod o The Osmonds gyda'i frodyr Donny a Jimmy a'i chwaer Marie Osmond.

Bu farw ar Ddydd Calan gyda'i wraig a phump o'i blant wrth ei ochr.

"Mae ei waddol, ffydd, cerddoriaeth, cariad a'i chwerthin wedi dylanwadu ar fywydau nifer o bobl ar draws y byd," meddai'r teulu.

"Hoffai i bawb wybod fod neges Iesu Grist yn wir, bod cariad teulu am byth ac mai'r banana split yw'r pwdin gorau.

"Rydym yn ei garu ac fe fyddwn ni'n gwel ei eisiau yn ofnadwy."

Fe wnaeth ei frawd, Donny Osmond roi teyrnged i'w "annwyl frawd" gan ddweud ei fod yn ddiolchgar i'w weld yn yr ysbyty cyn iddo farw.

"Daeth Wayne â chymaint o oleuni, chwerthin, a chariad i bawb oedd yn ei adnabod, yn enwedig fi," meddai.

“Fe oedd yr optimist fwyaf ac roedd pawb yn ei garu.”

Cafodd Wayne Osmond ei eni yn Ogden, yn nhalaith Utah yn America, ac roedd yn un o naw o blant.

Dechreuodd ei yrfa gerddorol pan oedd yn fachgen ifanc yn rhan o barbershop quartet gyda'i frodyr Alan, Merril a Jay.

Yn ddiweddarach roedd Donny a Jimmy wedi ymuno â nhw a ddaeth y grŵp yn adnabyddus yn yr 1970au.

Eu caneuon mwyaf poblogaidd oedd One Bad Apple, Crazy Horses a Love Me For A Reason.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.