Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun newydd ar gyfer hyfforddiant athrawon

ITV Cymru 02/01/2025

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun newydd ar gyfer hyfforddiant athrawon

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd ar gyfer hyfforddiant athrawon.

Yn sgil prinder athrawon yng Nghymru, roedd yna alwad penodol am athrawon i ddysgu pynciau craidd Cymraeg, Gwyddoniaeth a Mathemateg. 

Yn ôl cyhoeddiad Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn cynnwys llwybr cyflogedig, sydd yn galluogi athrawon o dan hyfforddiant i ennill cyflog a chymhwyso ar yr un pryd.

Mae’r cynllun yn caniatau ungiolion i ymgymryd ar gwrs TAR dwy flynedd, tra’n gweithio o fewn ysgol gyda chyflog. Mae costau ychwanegol wedi’u talu gan grant hyfforddi gan Lywodraeth Cymru. 

Y gobaith yw bydd y cynllun yn datrys problemau recriwtio ac annog unigolion i ystyried newid gyrfa. 

Mae’r cynllun yn barod wedi’i gweithredu ar draws Cymru, gan gynnwys yn Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst, ble mae chwe athro yn gweithio o dan hyfforddiant.

Image
Prifathro Owain Gethin Davies
Owain Gethin Davies (Llun: ITV Cymru)

Dywedodd y Prifathro, Owain Gethin Davies ei fod yn croesawu’r cynllun. 

“Yn sicr, mae hwn yn manteisiol i ni, mi ydan ni fel ysgol yn gallu manteisio ar ddefnyddio nhw yn ystod eu blwyddyn gynta ar gyfer bod yn gymhorthyddion dysg ar gyfer cyflenwi gwersi.”

Eglurodd bod yr unigolion yn gallu “ dysgu trwy’r profiad yna hefyd o weithio gyda bobl ifanc, ond hefyd mae’n datblygu gweithlu’r dyfodol.”

Mewn datganiad wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, meddai hi: "Mae cael cymaint o lwybrau i addysgu yn ein galluogi i recriwtio'r gweithlu sydd ei angen arnom nawr ac yn y dyfodol, gan sicrhau ein bod yn cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial ac yn parhau i godi safonau.

"Rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddenu athrawon o safon uchel i'r proffesiwn yng Nghymru, yn enwedig yn ein hysgolion uwchradd.

"Mae'n galonogol gweld athrawon yn ymuno â'n gweithlu addysg drwy'r llwybr cyflogedig, gan gyfoethogi eu bywydau eu hunain trwy yrfa mewn addysgu a hefyd cyfrannu at system addysg y mae Cymru'n falch ohoni." 

Prif lun: Llywodraeth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.