Newyddion S4C

Elusen yn beirniadu toriadau taliadau tanwydd wrth i oerfel 'beryglu bywyd'

Cynhesu dwylo oer. Llun gan Peter Byrne / PA

Mae elusen wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri taliadau tanwydd pensiynwyr wrth i asiantaeth rybuddio y gall y gostyngiad mewn tymheredd sydd ar ei ffordd “roi'r henoed mewn perygl o farwolaeth”.

Mae rhybudd oerfel wedi ei gyhoeddi gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi rhybuddio o 12:00yh ar ddydd Iau 2 Ionawr, hyd at 8 Ionawr, sy’n golygu bod cynnydd mewn marwolaethau yn debygol, yn enwedig ymhlith y rhai 65 oed a hŷn neu sydd â chyflyrau iechyd.

Mae disgwyl i’r tymheredd syrthio i -6°c yng Nghymru nos Iau, ac mae’n bosib y bydd Yr Alban a gogledd Lloegr yn gweld tymheredd cyn lleied â -8°c yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Dywedodd Caroline Abrahams, cyfarwyddwr Age UK, bod penderfyniad y Llywodraeth i gyfyngu’r lwfans tanwydd gaeaf i’r pensiynwyr tlotaf yn unig yn achosi pryder mawr.

Yn ôl Ms Abrahams, mae pobol hŷn eisoes wedi cysylltu â’r elusen “yn poeni beth i’w wneud” pan ddaw’r tywydd oeraf.

O'r gaeaf hwn ymlaen, dim ond pobl ar gredyd pensiwn neu fudd-daliadau penodol eraill fydd yn cael y taliadau tanwydd gaeaf, tra bod mwy na naw miliwn o rai eraill ar fin colli'r lwfans.

“Rydym yn erfyn ar bobl hŷn i wneud popeth o fewn eu gallu i gadw’n gynnes, hyd yn oed os yw hynny’n golygu gwario mwy nag y maent yn teimlo y gallant ei fforddio” meddai Ms Abrahams.

“Mae’r cwmnïau egni dan rwymedigaeth i helpu os ydych chi’n cael trafferth ac efallai bod cymorth ar gael gan eich cyngor lleol hefyd."

Mae rhybudd melyn wedi ei osod yn rhannau helaeth o Gymru am eira, a fydd yn dechrau ganol dydd Sadwrn ac yn parhau at 9:00 fore Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.