Newyddion S4C

Huw 'Fash' Rees i roi’r gorau i’w fusnes dillad priodas am resymau iechyd

Huw Fash Rees

Mae’r cyflwynydd ffasiwn a’r perchennog busnes Huw Rees wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi’r gorau i’w fusnes dillad priodas ymhen rhai misoedd oherwydd cyflwr ei iechyd.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Huw "Fash" Rees, fel mae’n cael ei adnabod, y bydd yn dirwyn ei fusnes i ben erbyn diwedd mis Mawrth 2025.

Dywedodd fod materion a heriau iechyd yn gyfrifol am y penderfyniad am nad oedd hynny yn gadael digon o amser i redeg siop briodas.

Mae'r busnes wedi ei leoli yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.  

Ychwanegodd nad oedd “unrhyw sgandal” ac na fydd unrhyw briodferch yn cael ei gadael heb wisg.

Mae Huw wedi bod yn codi ymwybyddiaeth am glefyd yr arennau – ac yntau bellach ar beiriant dialysis. 

Fe gafodd wybod bod ei arennau’n ddiffygiol yn 2019 wedi iddo ddioddef cyfnod o salwch difrifol.

Cafodd lawdriniaeth ar ei ddwy aren, y gyntaf ym mis Mehefin y flwyddyn honno a’r eildro ym mis Gorffennaf.

Ond wedi cyfnod y pandemig, gwaethygodd cyflwr ei arennau unwaith yn rhagor ac fe gafodd rybudd ddwy flynedd yn ôl y byddai'n rhaid iddo ystyried triniaeth dialysis “o ddifrif.” 

Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn dywedodd: “Mae wedi bod yn benderfyniad anodd i beidio â chario mlaen, a phenderfyniad sy' ddim wedi ei wneud yn ysgafn. 

"Bydd Huw Rees yn rhoi’r gorau i fasnachu ddiwedd mis Mawrth 2025. Mae problemau iechyd parhaus i gyd yn cymryd llawer o amser sy’n gadael ychydig o amser ar gyfer rhedeg siop briodas. 

"Rydym wedi cyslltu gyda'n holl briodferched. Byddwn yn parhau i weithio gyda phob priodferch bresennol tan eu priodasau. 

"Nid oes unrhyw sgandal, dim priodferch heb ffrog. Byddwn yn dirwyn y busnes i ben yn dawel tan ddiwedd mis Mawrth. 

"Diolch enfawr i briodferched a theuluoedd sydd wedi ein cefnogi ers 16 mlynedd, 14 o'r rheiny fel enillwyr gwobrau cenedlaethol. Diolch Huw a’r tîmX"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.