Newyddion S4C

Person hynaf y byd wedi marw yn 116 oed

Tomiko Itooka

Mae menyw o Japan, sy’n cael ei chydnabod fel person hynaf y byd gan Guinness World Records, wedi marw yn 116 oed.

Bu farw Tomiko Itooka mewn cartref nyrsio yn ninas Ashiya, yn ôl swyddogion.

Hi oedd y person hynaf yn y byd ar ôl i Maria Branyas Morera o Sbaen farw ym mis Awst 2024 yn 117 oed.

Dywedodd maer Ashiya, Ryosuke Takashima: “Rhoddodd Ms Itooka ddewrder a gobaith inni trwy ei bywyd hir.”

"Rydym yn diolch iddi amdano."

Ganed Ms Itooka ym mis Mai 1908 - chwe blynedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r un flwyddyn ag y cafodd car Ford Model T  ei lansio yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd ei dilysu fel person hynaf y byd ym mis Medi 2024 a chyflwynwyd tystysgrif swyddogol Guinness World Records iddi ar Ddiwrnod Parchu’r Henoed, sef gŵyl gyhoeddus Japaneaidd sy’n cael ei dathlu’n flynyddol i anrhydeddu dinasyddion oedrannus y wlad.

Bu farw rai wythnosau wedi marwolaeth person hynaf Cymru, Mary Keir a oedd yn 112 oed

Ar ôl byw yn Llansteffan, Sir Gâr, treuliodd Ms Keir y 12 mlynedd ddiwethaf yng nghartref gofal Awel Tywi yn Llandeilo.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.