Newyddion S4C

Rhybudd oren am eira a rhew i Gymru mewn grym ddydd Sadwrn

Rhybudd oren am eira a rhew i Gymru mewn grym ddydd Sadwrn

Mae eira wedi dechrau disgyn mewn rhannau o gymoedd y de, y de orllewin a'r canolbarth nos Sadwrn, gan ymledu tua'r gogledd.  

Mae rhybudd oren am eira a rhew wedi dod i rym yng Nghymru ers 18:00.

Mae'r rhybudd oren yn cynnwys eira trwm a glaw rhewllyd yn berthnasol i bob sir yng Nghymru heblaw am Ynys Môn.

Mae yna rybudd melyn ar wahân ers hanner dydd ddydd Sadwrn ar gyfer eira a rhew sy'n gorchuddio Cymru gyfan.

Bydd y rhybudd oren yn dod i ben am hanner dydd ddydd Sul a'r rhybudd melyn am hanner nos ddydd Sul.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd yr eira yn "drwm" a "chyson" ac y gallai bron i droedfedd syrthio ar dir uchel Cymru.

"Bydd yr eira'n gyson ac yn drwm mewn mannau wrth iddo wthio o'r de i'r gogledd ar draws yr ardal sy'n rhan o'r rhybudd," meddai'r Swyddfa Dywydd.

"Yn ogystal ag eira, mae cyfnod o law rhewllyd yn debygol o ddod â rhai amodau teithio peryglus, cyn i aer mwynach ddilyn ar draws pob ardal erbyn bore Sul.

"Tra bod ansicrwydd o hyd, mae 3-7 cm o eira yn debygol ar gyfer llawer o'r ardal sy'n rhan o'r rhybudd, gyda 15-30 cm yn lleol ar dir uwch Cymru a'r Pennines.

"Gallai glaw rhewllyd arwain at iâ mewn mannau, yn enwedig mewn rhannau o Gymru, cyn i’r aer mwynach arwain at ddadmer cyflym tua'r de ddydd Sul."

Dosbarthu

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio:

  • Gall toriadau pŵer ddigwydd, a allai effeithio ar wasanaethau eraill, gan gynnwys signal ffôn symudol
  • Mae oedi wrth deithio ar ffyrdd yn debygol, gan olygu bod rhai cerbydau a theithwyr yn sownd
  • Gall rhai ffyrdd fod ar gau ac mae amseroedd teithio hirach yn bosibl
  • Mae peth oedi a chanslo teithiau bws, trên ac awyr yn debygol
  • Gallai cymunedau gwledig gael eu torri i ffwrdd
  • Mae palmentydd a llwybrau beicio heb eu trin yn debygol o fod yn beryglus

 

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn dosbarthu pecynnau i atal pibellau rhag rhewi a byrstio sy'n rhad ac am ddim.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi cau eu canolfannau ymwelwyr yng Nghoed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas ddydd Sadwrn a dydd Sul o ganlyniad i'r tywydd.

Yn y cyfamser mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi cyhoeddi rhybuddion iechyd tywydd oer ledled Lloegr.

Mae rhybuddion oren wedi'u cyhoeddi o hanner dydd ddydd Iau tan 8 Ionawr. Nid yw'r corff yn gyfrifol am rybuddion tywydd oer yng Nghymru.

Glaw trwm

Fore Sadwrn, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm mewn 18 sir yng Nghymru rhwng 06:00 a 21:00 ddydd Sul. 

Mae'r rhybudd hwnnw wedi ei gyhoeddi oherwydd pryderon y gallai eira yn dadmer achosi llifogydd.

Gallai hynny effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr 
  • Caerffili
  • Caerdydd 
  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Sir Ddinbych 
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd 
  • Sir Benfro 
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe 
  • Torfaen
  • Wrecsam

      

Llun gan Neil Mark Thomas ar Unsplash

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.