Llai o bobl yn mynd i siopau'r stryd fawr yng Nghymru dros gyfnod y Nadolig
Mae cwymp arall wedi bod yn nifer y bobl sy'n siopa ar y stryd fawr yng Nghymru yn ystod cyfnod y Nadolig.
Mae nifer y siopwyr wedi cwympo 2.6% ym mis Rhagfyr o'i gymharu â llynedd, yn ôl dadansoddiad y British Retail Consortium (BRC) a chwmni Sensormatic.
Roedd nifer y siopwyr wedi cwympo 2.2% ar draws y DU.
Roedd nifer y bobl a wnaeth ymweld â’r siopau adeg ‘Dolig hefyd wedi cwympo gan 2.5% yn y DU o'i gymharu â’r llynedd.
Mae’r cyfnod hwnnw fel arfer yr adeg fwyaf prysur y flwyddyn i’r siopau, ond eleni mae wedi cael ei ddisgrifio fel cyfnod “siomedig".
Dywedodd prif weithredwr y BRC, Helen Dickinson, mai “newid agwedd” sydd wrth wraidd y gostyngiad gan fod pobl bellach yn chwilio am ffyrdd gwahanol o siopa.
Dywedodd Andy Sumpter o Sensormatic bod angen i siopau a manwerthwyr ddod o hyd i strategaethau newydd er mwyn denu mwy o gwsmeriaid yn y flwyddyn newydd.
Fe wnaeth nifer y bobl oedd yn ymweld â’r siopau yng Ngogledd Iwerddon syrthio gan 5.8% eleni.
Yn Lloegr roedd ‘na chwymp o 2.1% tra roedd gostyngiad o 1.5% yn Yr Alban.