Newyddion S4C

Gwahardd Stormzy rhag gyrru am naw mis am ddefnyddio’i ffôn y tu ôl i olwyn ei gar

Stormzy

Mae’r rapiwr Stormzy wedi’i wahardd rhag gyrru am naw mis ar ôl i heddwas cudd ei ddal yn defnyddio’i ffôn y tu ôl i olwyn ei gar.

Plediodd y rapiwr, Michael Ebenazer Owuo Junior, 31, yn euog i yrru ei Rolls-Royce Wraith wrth ddefnyddio dyfais symudol.

Digwyddodd y drosedd ar Addison Road, yn Kensington, yng ngorllewin Llundain, toc wedi 3.30pm ar Fawrth 7 2024.

Clywodd Llys Ynadon Wimbledon bod swyddog wedi curo ar ffenestr car y rapiwr a mynnu ei fod yn “dod oddi ar dy ffôn”.

Dyma’r ail dro i Stormzy wynebu cosb yn ymwneud a gyrru wedi iddo gyfaddef i yrru car gyda’r ffenestri wedi eu tintio i raddfa anghyfreithlon.

Cafodd ei stopio gan swyddogion ar Coombe Lane, Kingston upon Thames, tua 12.45pm ar Hydref 17 2023, ar ôl cael ei rybuddio yn flaenorol am y ffenestri.

Cyn y gwrandawiad ddydd Iau roedd ganddo eisoes chwe phwynt ar ei drwydded.

Penderfynodd y barnwr rhanbarthol Andrew Sweet wahardd y rapiwr, nad oedd yn bresennol yn y llys, rhag gyrru am naw mis a rhoddodd ddirwy o £2,010 iddo.

Dywedodd nad oedd record Mr Owuo wrth yrru “yn un dda” a beirniadodd ei weithredoedd “peryglus ac anghyfrifol”.

Dywedodd Peter Csemiczky, wrth amddiffyn, fod y cerddor yn derbyn cyfrifoldeb ac yn ymddiheuro.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.