Newyddion S4C

Eich lluniau chi o oleuadau'r gogledd ar draws Cymru ar ddydd Calan

Goleuadau'r Gogledd Pen Llyn

Roedd storm solar yn golygu bod goleuadau'r gogledd yn disgleirio ar ddydd Calan.

Cafodd yr awyr ei liwio'n binc a phiws gan yr auora borealis mewn sawl rhan o Gymru nos Fercher.

Image
Aled Hughes, Tregaron
Goleuadau'r gogledd yn Nhregaron, Ceredigion. Llun: Aled Hughes

Y llynedd oedd un o'r blynyddoedd gorau ar record ar gyfer gweld goleuadau'r gogledd yng Nghymru.

Mae hyn oherwydd bod y gylchred solar 11 mlynedd o hyd wedi cyrraedd ei uchafbwynt wrth i faes magnetig yr haul gyfnewid lle rhwng pegynnau'r de a'r gogledd.

Yn ystod uchafbwynt y gylchred, mae'r haul yn tanio gyda fflachiadau llachar a ffrwydradau solar, sydd yn golygu bod goleuadau'r gogledd yn cael eu gweld yn amlach.

Dechreuodd y ffrwydradau solar a achosodd y rownd ddiweddaraf o oleuadau llachar yn yr awyr pan ffrwydrodd smotyn haul enfawr ar wyneb yr haul 93 miliwn o filltiroedd (150 miliwn cilometr) i ffwrdd.

Nid oes disgwyl i'r goleuadau gael eu gweld mor aml yn y blynyddoedd nesaf, ond erbyn tua 2035/36 bydd y gylchred ar ei uchafbwynt eto.

Dyma gasgliad o'ch lluniau chi o oleuadau'r gogledd nos Fercher:
 

Image
Aberteifi. Llun: Rebecca Ring
Aberteifi. Llun: Rebecca Ring
Image
Llanfechel. Llun: Jackie Harper
Llanfechel. Llun: Jackie Harper
Image
Blaenffos. Llun: Iwan Ward
Blaenffos. Llun: Iwan Ward
Image
Rhosygwaliau. Llun: Dei John Watkin Jones
Rhosygwaliau. Llun: Dei John Watkin Jones
Image
Talerddig. Llun: Angharad Jones
Talerddig. Llun: Angharad Jones

Mae modd cyfrannu eich lluniau ar Facebook neu dros ebost ar Newyddion@S4C.Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.