Ffrwydrad Cybertruck wrth westy Trump - ymchwilio i gysylltiad posib gyda New Orleans
Mae’r heddlu yn ymchwilio i gysylltiad posib ag ymosodiad yn New Orleans ar ôl i Cybertruck gan y cwmni Tesla ffrwydro y tu allan i westy Donald Trump yn Las Vegas.
Dywedodd yr heddlu bod y gyrrwr wedi ei ladd a saith o bobl wedi eu hanafu ar ôl i flychau tanwydd a tan gwyllt oedd yn y car gynnau.
Fe wnaeth perchennog cwmni Tesla, Elon Musk, chwarae rhan flaenllaw wrth ethol Donald Trump yn arlywydd ym mis Tachwedd ac mae disgwyl iddo gymryd swydd yn ei weinyddiaeth.
Cafodd y tryc ei rentio yn nhalaith Colorado cyn cyrraedd Las Vegas, Nevada, fore Mercher.
Digwyddodd y tân tua 08:40 PT (15:40 GMT), ychydig oriau ar ôl i ddyn yrru lori gyda baner grŵp y Wladwriaeth Islamaidd (IS) i mewn i dorf yn New Orleans.
Bu farw o leiaf 15 o bobl ac fe gafodd dwsinau eu hanafu yn yr ymosodiad hwnnw yn nhalaith Louisiana.
Mewn anerchiad gyda’r nos, dywedodd yr Arlywydd Joe Biden fod y Tŷ Gwyn yn cadw llygad ar y digwyddiad.
Roedden nhw’n ymchwilio i weld “a oes unrhyw gysylltiad posib â’r ymosodiad yn New Orleans”.
Digwyddodd yr ymosodiad hwnnw tua 03.15 (09.15 GMT) yn Ardal Ffrengig New Orleans, sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr â’r ddinas.
Y gred yw mai Shamsud Din Jabbar, 42 oed o dalaith Texas, a fu farw yn ystod yr ymosodiad, oedd yn gyfrifol.
Mae’r FBI bellach wedi dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i faner sydd yn cefnogi grwpiau terfysgol yr IS yng ngherbyd Mr Jabbar.