Newyddion S4C

Streiciau Avanti: 'Gwasanaeth cyfyngedig' yn golygu dim trenau yng ngogledd Cymru

tren avanti

Mae rhybudd i deithwyr trenau i “ddisgwyl oedi” wrth i reolwyr trenau Avanti West Coast streicio unwaith eto ddydd Iau. 

Ni fydd yna wasanaethau yng ngogledd Cymru ar ddiwrnod y streic. 

Roedd rheolwyr trên sy’n aelodau o undeb yr RMT eisoes wedi streicio ddydd Mawrth gan eu bod yn anfodlon â'u hamodau gwaith.

Bydd amserlen gyfyngedig Avanti West Coast yn golygu nad fydd eu trenau’n gwasanaethu teithwyr yng ngogledd Cymru, Blackpool na Chaeredin ar ddiwrnod yr anghydfod.

Dywedodd Kathryn O’Brien, cyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid Avanti West Coast: “Ar ddiwrnod y streic fydd gennym ni wasanaeth cyfyngedig iawn, felly rydym yn annog cwsmeriaid sydd â thocyn i deithio ar 2 Ionawr i deithio ar ddyddiad gwahanol neu i hawlio ad-daliad llawn. 

“Rydym yn agored i gydweithio gyda’r RMT er mwyn datrys yr anghydfod,” meddai. 

Mae Avanti West Coast hefyd wedi annog pobl a fydd yn dal i deithio i gynllunio o flaen llaw, i ddisgwyl oedi, ac i wirio manylion eu trên olaf.

Dywedodd llefarydd ar ran undeb yr RMT mai diffyg staffio sydd “wrth wraidd y broblem” a bod hynny’n golygu fod ‘na orddibyniaeth ar weithwyr yn gweithio fwy o oriau nag y dylen nhw. 

“Mae’n hollol annerbyniol fod rheolwyr eraill yn cael eu talu tua £500 y shifft, a hynny’n tua dwbl yr hyn mae aelodau Avanti yn eu hennill.”

'Gwasanaeth cyfyngedig'

Yn sgil y gwasanaeth cyfyngedig, dim ond un trên Avanti fydd yn teithio bob awr rhwng Euston yn Llundain a Birmingham, Crewe a Manceinion. 

Fydd 'na wasanaeth cyfyngedig hefyd rhwng Glasgow a Preston. 

A bydd amserlen gyfyngedig yn golygu y bydd eu trên cyntaf yn gadael Euston am 08.00 a’r trên olaf yn gadael cyn 17.00.  

Bydd aelodau'r RMT sy'n rheolwyr trenau sy’n gweithio i Avanti West Coast hefyd yn streicio bob Sul o 12 Ionawr nes 25 Mai 2025.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.