Torri cysylltiad trydan rêf nos Galan mewn hen bwll glo
Mae’r heddlu wedi torri’r cysylltiad trydan i safle rêf mewn hen bwll glo ger Pont-y-pŵl.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau am gerddoriaeth uchel ar safle diwydiannol The British ger Talywain yn oriau mân y bore dydd Calan.
Mae swyddogion yn y fan a’r lle ac maen nhw’n galw ar y cyhoedd i osgoi’r ardal, medden nhw fore Mercher.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Stephen Drayton mai’r nod oedd “sicrhau diogelwch y rhai sy’n mynd i ddigwyddiadau cerddoriaeth didrwydded”.
“Gall swyddogion gau’r digwyddiad i atal y sefyllfa rhag gwaethygu, ac er mwyn meddiannu offer ac erlyn y trefnwyr,” meddai.
“Mae’r pŵer i’r safle wedi’i ddatgysylltu ac rydym wedi cyflwyno hysbysiad adran 63 (section 63 notice) i’r rhai yn yr ardal yn eu gorchymyn i adael.
“Gall rêf achosi aflonyddwch difrifol i drigolion cyfagos, gall fod yn risg i’r rhai sy’n bresennol, ac ni fydd yn cael ei oddef.
“Wrth i’n swyddogion barhau i ddelio â’r digwyddiad, ac wrth i bobl adael y safle, rydyn ni’n gofyn i’r gymuned ehangach osgoi’r ardal lle bynnag y bo modd er mwyn osgoi tagfeydd traffig.”
Llun: Safle The British