Pryderon na fydd Ben Davies yn holliach am weddill y tymor
Mae amddiffynnwr Cymru, Ben Davies, wedi derbyn ail lawdriniaeth ar ôl torri ei ffêr y penwythnos diwethaf, gan fwrw amheuaeth ar ei bresenoldeb yng Nghwpan y Byd pe bai Cymru yn cyrraedd y gystadleuaeth.
Roedd yn rhaid i chwaraewr 32 oed Tottenham Hotspur dderbyn ocsigen cyn cael ei gario oddi ar y cae ar ôl 19 munud yn erbyn West Ham United yn Uwch Gynghrair Lloegr y penwythnos diwethaf.
Mae Davies bellach wedi derbyn llawdriniaeth a allai ei atal rhag gwisgo'r crys coch yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd ym mis Mawrth, gyda'r anaf hefyd yn bwrw amheuaeth ar ei ddyfodol gyda Tottenham.
Fe fydd cytundeb presennol cyn-amddiffynnwr Yr Elyrch, sydd wedi bod yn Spurs ar ôl gadael Abertawe 12 mlynedd yn ôl, ac wedi chwarae mewn 448 o gemau dros y clwb, yn dod i ben ddiwedd y tymor yma.
Mae'r clwb yng Ngogledd Llundain eisoes mewn trafodaethau i arwyddo cefnwr chwith Lerpwl, Andy Robertson.
Fe fydd Cymru'n wynebu Bosnia-Herzegovina yng ngêm gynderfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 26 Mawrth, gyda'r enillwyr i chwarae gartref yn erbyn Gogledd Iwerddon neu'r Eidal yn y rownd derfynol ar 31 Mawrth.
Yn ddiweddar, disgrifiodd rheolwr Cymru, Craig Bellamy, Davies fel ei "chwaraewr gorau" gyda Davies yr unig aelod o garfan bresennol Cymru i gyrraedd 100 o gapiau.
(Llun: Huw Evans)