Fideo: Croesawu 2025 gyda dathliadau blwyddyn newydd ledled y byd
Fideo: Croesawu 2025 gyda dathliadau blwyddyn newydd ledled y byd
Mae biliynau o bobl ledled y byd wedi dathlu’r flwyddyn newydd dros nos.
Roedd Awstralia ymhlith rhai o wledydd mwyaf y byd i ddathlu’r flwyddyn newydd yn gyntaf.
Am 13.00 yn y DU, fe ddaeth cannoedd at ei gilydd ger Pont Harbwr Sydney i wylio’r sioe tân gwyllt byd enwog am hanner nos yno.
Ychydig o oriau yn ddiweddarach, daeth dinasyddion Gogledd Korea at ei gilydd yng nghanol Sgwâr Kim II Sun ym mhrifddinas Pyongyang gan ddawnsio a dathlu’r flwyddyn newydd.
Ac yn Llundain yn y DU, roedd nifer o ddinasyddion wedi dod at ei gilydd i weld sioe tân gwyllt adnabyddus y brifddinas yn cael ei gynnal ger y London Eye.
Pump awr yn ddiweddarach roedd tua miliwn o bobl wedi ymgynnull yn Times Square yn Efrog Newydd, UDA am ddigwyddiad eiconig y ‘ball drop’ – gan wylio’r cloc yn taro hanner nos.
Llun: Jonathan Brady/PA Wire