Rhaglen newydd yn ymchwilio i ddirgelwch llofruddiaeth bwa croes Ynys Môn
Bydd rhaglen newydd ar S4C nos Iau a Gwener yn ymchwilio i ddirgelwch llofruddiaeth bwa croes Ynys Môn.
Mae llofruddiaeth Gerald Corrigan, a laddwyd gan fwa croes yng nghefn gwlad yr ynys yn 2019, yn parhau i fod yn un o ddirgelion troseddol mwyaf dyrys Cymru.
Bydd y rhaglen ddogfen dwy ran ar yr 2il a 3ydd o Ionawr, Llofruddiaeth y Bwa Croes, yn cynnwys cyfweliadau â newyddiadurwyr, patholegydd, cymdogion a ffrindiau Gerald.
Mae'r gyfres yn ailymweld â'r digwyddiadau brawychus o amgylch ei farwolaeth ac yn ceisio ateb yr un cwestiwn sydd wedi aros ers blynyddoedd: Pam lladdwyd Gerald Corrigan?
Dywedodd Will Humphries, newyddiadurwr y Times wrth y rhaglen bod yna “lawer iawn yn aneglur” am yr achos hyd heddiw.
“Mae’n anodd gwybod pam oedd rhaid i Gerald Corrigan farw,” meddai.
Beth ddigwyddodd?
Ar ddydd Gwener y Groglith, Pasg 2019, daethpwyd o hyd i gorff Gerald Corrigan y tu allan i'w gartref anghysbell ym Mhorth Dafarch ar Ynys Môn. Roedd bollt bwa croes wedi ei daro.
Dywedodd y newyddiadurwr Brendon Williams wrth y rhaglen mai un o “nifer o agweddau afiach” am yr achos ydi ei fod wedi cymryd sawl wythnos i Gerald Corrigan farw.
“Roedd rhaid i’r teulu ddioddef hynny – dwi’n credu eu bod nhw wedi sylweddoli nad oedd yna fawr o obaith ond fe gymerodd wythnosau.”
Wrth i’r heddlu fynd ati i ymchwilio doedd dim cymhelliad clir. Roedd Gerald yn ddyn oedd wedi ymddeol i’r ynys ac heb unrhyw elynion amlwg, gan arwain yr heddlu i ddyfalu y gallai hyn fod wedi bod yn ymosodiad ar hap.
Heb neb dan amheuaeth amlwg, buan datblygodd yr achos i fod yn un o ddirgelwch a fyddai'n drysu ymchwilwyr am fisoedd i ddod.
Gydag ychydig o wybodaeth, daeth yr achos yn destun dyfalu'n gyflym, ac roedd y cyfryngau, yn debyg i'r heddlu, yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i esboniad am y llofruddiaeth ddisynnwyr.
Yn y pen draw fe gafodd therapydd chwaraeon o'r enw Terence Whall, oedd yn byw ym Mryngwran heb fod ymhell o gartref Gerald, ei gyhuddo o'i lofruddiaeth a'i ddedfrydu i o leiaf 31 mlynedd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Chwefror 2020.
Ond does dim rheswm wedi ei roi o hyd am pam y lladdwyd Gerald Corrigan.
Mae ei farwolaeth yn parhau'n ddirgelwch annifyr a fydd yn parhau i boeni pobl Môn - a'r rhai sy'n cofio ei stori.
Llofruddiaeth y Bwa Croes, Nos Iau a Gwener, 2 & 3 Ionawr 21.00, ac ar alw ar S4C Clic ac iPlayer.