Newyddion S4C

'Bythgofiadwy': Merch o Ddinbych yn ennill gwobr drwy Ewrop am ei gwaith gyda Coldplay

Alaw Broster yn ennill gwobr WILMA

Mae merch 23 oed o Ddinbych wedi ennill gwobr am ei gwaith cefn llwyfan i’r band Coldplay

Ar ôl gorfod gadael Ysgol Glan Clwyd yn ei blwyddyn olaf oherwydd salwch, aeth Alaw Broster i weithio gefn llwyfan mewn theatr yn Rhyl. 

“Sylweddolais yn weddol fuan fy mod i eisiau gweithio hefo cerddoriaeth, ac yn enwedig bandiau byw,” meddai Alaw wrth Newyddion S4C.

Roedd hi’n ffodus o gael gwneud gwaith gweini ar gyfer artistiaid a chriw’r Eurovision Song Contest yn Lerpwl dros gyfnod o chwe wythnos, cyn cael blwyddyn o symud o un stadiwm ac arena i’r llall fel gweithiwr llawrydd.

Oherwydd ei chefndir mewn theatr, roedd Alaw yn gallu helpu i osod llwyfannau a’u tynnu i lawr ar ôl cyngherddau, ac felly un diwrnod, wrth osod llwyfan yn barod at gyngerdd Harry Styles, cafodd y cynnig i weini gefn llwyfan.

“Hwn yn bendant oedd un o fy mreuddwydion ar ôl bod yn gefnogwr mawr o One Direction a Harry Styles ers blynyddoedd," meddai.

“Roeddwn wastad wedi bod â mwy o ddiddordeb bod tu cefn llwyfan ac nid ar y llwyfan ei hun yn perfformio.”

Image
Stadium Budapest
Stadiwm ym Mwdapest (Llun: Alaw Broster)

Erbyn hyn, mae Alaw wedi cydweithio gyda phob math o artistiaid adnabyddus gan gynnwys Elton John, Arctic Monkeys, Jonas Brothers, Kings of Leon a Madness.

Cafodd hefyd gyfle i weithio yn ystafell newid 50 Cent, rapiwr byd-enwog, gefn llwyfan, lle’r oedd “llond ystafell o grysau-t a trainers labeli dylunwyr… roeddwn braidd yn nerfus wrth smwddio crysau-t gwerth cannoedd o bunnoedd!”

Cyfle

Eleni, cafodd Alaw'r cyfle i fynd ar daith efo’r band hynod boblogaidd, Coldplay, am chwe mis fel gweinyddes gefn llwyfan i’r criw.

Roedd ei diwrnod arferol yn dechrau am 07.00 wrth iddi weini brecwast i’r band a’r holl griw, cyn symud ymlaen wedyn i weini’r cinio ac yna’r swper.

Ar ôl gorffen y gwaith o weini, roedd Alaw yn cyfarfod y criw technegol ac yna’n gwylio’r cyngerdd.

Dywedodd mai’r profiad o gael teimlo’r “egni a’r hapusrwydd oedd yn dod gan y gynulleidfa a’r criw yn y stadiwm bob nos” oedd yn gofiadwy iddi.

“Mae yna egni positif sydd ddim i’w weld mewn unrhyw gyngerdd arall," ychwanegodd.  

"Mae’n anodd iawn i’w egluro oni bai eich bod chi wedi mynychu cyngerdd diweddaraf Coldplay.”

O deithio ar awyrennau preifat efo criw Coldplay i aros mewn gwestai moethus, mae Alaw wedi disgrifio’r profiad o weithio gyda’r band fel un “bythgofiadwy… dysgais gymaint am yr ochr dechnegol, yn enwedig yr ochr sain a goleuadau.”

Image
Alaw efo'r bobl oedd yn gweithio ar y llawr egni ar gyser Coldplay
Alaw efo'r dynion oedd yn gweithio ar y llawr egni ar daith Coldplay. (Llun: Alaw Broster)

Enwebiad

Fis Rhagfyr, 2024, fe gafodd Alaw “sioc fawr” o glywed ei bod yn un o’r pedwar ar y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘criw arlwyo’ yn y WILMA (Women In Live Music Awards), ar ôl iddi gael ei henwebu gan griw Coldplay.

Mae’r WILMA yn seremoni wobrwyo sy’n cael ei chynnal yn flynyddol er mwyn dangos cefnogaeth a dathlu’r merched sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth byw ar draws Ewrop gyfan.

Yn ôl Alaw, mae’r diwydiant yn un cystadleuol iawn. 

“Fel maen nhw’n ei ddweud yn y Saesneg, ‘it’s who you know’ ac mae adeiladu llyfr bach o gysylltiadau yn bwysig dros ben, yn enwedig efo’r merched yn y byd cerddoriaeth," meddai.

Cafodd y noson wobrwyo ei chynnal yn Whitechapel, Llundain, ar 11 Rhagfyr. 

Image
Alaw a'i mam ar set Coldplay
Alaw a'i mam ar set Coldplay cyn y cyngerdd. (Llun: Alaw Broster)

Roedd yn “eisin ar y gacen” i Alaw, sydd yn dal i “fethu credu’r peth.”

Dywedodd: “Dwi mor ddiolchgar i’r rhai a wnaeth fy enwebu a dwi mor lwcus o gael cyd-weithio efo criw mor gefnogol, talentog a chyfeillgar… mi fydd nifer ohonynt yn ffrindiau oes.”

Eleni, mi fydd Alaw yn canolbwyntio ar yr ochr dechnegol, a’r sain yn benodol, o’r diwydiant cerddoriaeth byw, gan barhau i weini’r bwyd a rhoi help llaw gyda’r cwpwrdd dillad. 

“Mae ambell i gwrs ar y gweill, tipyn o hyfforddiant tra ar daith a phwy a ŵyr, efallai bydd taith reit gyffrous yn nes at yr haf!” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.