Y cyflwynydd radio Johnnie Walker wedi marw yn 79 oed
Mae’r cyflwynydd radio a DJ Johnnie Walker wedi marw yn 79 oed.
Fe wnaeth Walker, oedd yn gyflwynydd ar raglenni Sound of the 70s a The Rock Show ar BBC Radio 2, wedi ymddeol fel cyflwynydd radio fis Hydref ar ôl 58 mlynedd.
Roedd wedi derbyn diagnosis o ffibrosis yr ysgyfaint yn flaenorol.
Fe gyflwynodd ei raglen Sounds of the 70s olaf ddiwedd Hydref, cyn ymddeol ar sail problemau iechyd.
Dywedodd ei wraig, Tiggy Walker: “Allwn i ddim bod yn fwy balch o Johnnie a sut lwyddodd i barhau i ddarlledu hyd at y diwedd gydag urddas, wrth iddo fyw gydag afiechyd ar yr ysgyfaint oedd yn effeithio’n fawr arno.
“Fe wnaeth Johnnie barhau yn berson llawn hiwmor ac yn gymeriad hyd at y diwedd. Am ddyn cryf a rhyfeddol.”