Apêl wedi i dri chi gael eu canfod yn farw mewn bagiau plastig
Mae RSPCA Cymru wedi lansio apêl ar ôl i dri chi gael eu canfod yn farw mewn bagiau plastig mewn maes parcio.
Fe gafodd y cŵn eu canfod ger adeilad frics ym maes parcio Pentrebach, ym Merthyr Tudful, am tua 09.00 fore Llun 30 Rhagfyr.
Roedd y cŵn yn fenywaidd – un sbaniel du, un daeargi (terrier) gwyn a sinsir a daeargi gwyn oedd â marciau du ar ei hwyneb.
Cafodd y tri eu canfod mewn bagiau plastig ar wahân.
Dywedodd Kirsty Morgan, Swyddog Achub Anifeiliaid RSPCA Cymru bod milfeddygon yn amcangyfrif bod y cŵn tua phedwar blwydd oed, ac wedi marw ers dau ddiwrnod.
“Roedd yna naddion (shavings) pren ar eu ffwr ac o gwmpas eu cegau, ac mi roedden nhw’n wlyb. Roedd dau o’r cŵn mewn cyflwr corff rhesymol ond roedd un yn ymddangos yn denau iawn.
“Wrth eu hymyl roedd yna fag o naddion pren, tegan ci, cwlwm cebl a darn o bren. Roedd yna lot o wrin yn y bag yn ogystal.
“Yn anffodus, doedd dim o’r cŵn gyda microsglodyn, felly nid ydym yn gwybod pwy oedd perchnogion y cŵn.”
Nid yw swyddogion yn gwybod sut y bu farw’r cŵn ond mae apêl wedi ei lansio oherwydd “amgylchiadau amheus”.
Nid oedd yna gamerâu cylch cyfyng yn yr ardal ble daeth aelod o'r cyhoedd o hyd i'r cŵn.
“Beth bynnag sydd wedi digwydd yma, mae’n drist iawn bod y cŵn yma wedi marw ac fe hoffwn i ddiolch i’r person a wnaeth adrodd hyn i ni er mwyn i ni wneud ymholiadau.”
Gallai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad cysylltu â’r RSPCA gan ddyfynnu’r cyfeirnod 01416870.