Newyddion S4C

Araith 'dŵr coch clir' gan Rhodri Morgan yn 'nonsens ofnadwy', yn ôl Syr Tony Blair

31/12/2024
Tony Blair a Rhodri Morgan

Cafodd araith arwyddocaol oedd yn cyflwyno gweledigaeth Rhodri Morgan yn ystod dyddiau cynnar datganoli ei disgrifio fel “nonsens ofnadwy” ar y pryd gan Brif Weinidog y cyfnod, Syr Tony Blair.

Mae araith cyn Prif Weinidog Cymru yn adnabyddus erbyn hyn, gyda nifer yn gyfarwydd gydag addewid Mr Morgan yn 2002 i roi "dŵr coch clir" rhwng Cymru a llywodraeth Lafur Blair.

Mae papurau Llywodraeth y DU o’r cyfnod bellach wedi dangos llawysgrifen cyn Prif Weinidog y DU ar gopi araith Mr Morgan, ac yntau wedi disgrifio ei syniadau fel "nonsens".

Daw wedi i ddogfennau gael eu cyhoeddi gan yr Archif Genedlaethol sydd yn dangos bod Syr Tony wedi derbyn copi o’i araith deuddydd ar ôl darlith Mr Morgan yn Abertawe ym mis Rhagfyr 2002. 

Roedd ymgynghorydd yn Rhif 10 Downing Street wedi beirniadu’r araith cyn cyflwyno’r papurau i Syr Tony. 

Fe wnaeth Tony Blair nodyn ar y ddogfen yn ei ddisgrifio’n “ofnadwy ac yn gamgymeriad mawr.” 

“Ond mae'n dangos sut mae'r gwynt yn chwythu yno,” meddai’r nodyn.

Perthynas cythryblus

Roedd perthynas Mr Morgan, a fu farw yn 2017, a Tony Blair yn un cythryblus. 

Fe benderfynodd Syr Tony i beidio â chynnig swydd i Mr Morgan yn ei lywodraeth gyntaf yn 1997, ac yn ddiweddarach yn ei yrfa fe gefnogodd Alun Michael yn ei le fel arweinydd cyntaf y Cynulliad. 

Fe ddaeth Mr Morgan yn Brif Weinidog Cymru yn 2000 wedi i Mr Michael gael ei wthio allan ac roedd yn arwain clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd. 

Roedd yn Brif Weinidog Cymru am naw mlynedd hyd at 2009. 

Mae nifer o bobl bellach wedi dadansoddi araith 'dŵr coch clir' – a gafodd ei hysgrifennu gan brif ymgynghorydd Mr Morgan ar y pryd, Mark Drakeford, a ddaeth yn Brif Weinidog yn 2018 – fel rhan o strategaeth a gyfrannodd at fuddugoliaeth y blaid Lafur yn yr etholiad yn 2003.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.