Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn datgan 'digwyddiad argyfwng' prin
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi dweud ei fod yn rhagweld y bydd oedi sylweddol pellach ddydd Mawrth ar ôl cyhoeddi “digwyddiad argyfwng” prin oherwydd pwysau cynyddol ar y gwasanaethau brys.
Roedd dros 340 o alwadau 999 yn disgwyl am ymateb pan gafodd yr argyfwng ei gyhoeddi nos Lun, meddai’r Ymddiriedolaeth.
Roedd mwy ‘na hanner o ambiwlansys hefyd yn disgwyl i drosglwyddo cleifion y tu allan i’r ysbyty – gan olygu bod nifer pellach yn disgwyl “sawl awr” am ambiwlans i gyrraedd nhw.
Wrth siarad ar raglen deledu BBC Breakfast bore Llun, dywedodd prif weithredwr yr Ymddiriedolaeth Jason Killens bod “y pwysau’n parhau bore ‘ma.”
“Dwi eisiau ymddiheuro i gleifion a arhosodd yn rhy hir ddoe ac sy’n parhau i aros y bore yma.
“Rydyn ni wedi gweld niferodd tebyg o bobl yn disgwyl am gyfnod llawer rhy hir dros nos… rwy’n rhagweld y byddai hyn yn parhau drwy’r nos.”
Mewn datganiad nos Lun, dywedodd pennaeth gwasanaeth yr Ymddiriedolaeth, Stephen Sheldon: “Mae’n brin iawn i ni gyhoeddi bod ‘na ddigwyddiad argyfwng.”
"Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd rhai cleifion yn aros yn hirach cyn i ambiwlans gyrraedd ac i'w galwadau gael eu hateb.”
Dywedodd fod “wir ddrwg” am yr oedi y bydd pobl yn eu hwynebu ond eu bod yn gwneud “popeth o fewn ein gallu” i fynd i’r afael â’r pwysau ar y gwasanaeth.
'Argyfwng difrifol'
Mae’r gwasanaeth bellach yn galw ar bobl i ddim ond galw 999 mewn “argyfwng difrifol.”
Mae'n dweud ei fod wedi cymryd “camau ychwanegol” i sicrhau ei fod yn gallu darparu gwasanaeth i’r fwy ‘na 3 miliwn o bobl yng Nghymru.
“Gall y cyhoedd helpu trwy ffonio 999 dim ond mewn achos o argyfwng sy’n bygwth bywyd – hynny yw ataliad y galon, poen yn y frest neu anawsterau anadlu, colli ymwybyddiaeth, tagu, neu waedu trychinebus,” medd Mr Sheldon.
“Rhaid i ni amddiffyn ein hadnoddau gwerthfawr ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf,” ychwanegodd.