Cyflwyno ap newydd a fydd yn 'rhoi llais' i ddarpar famau yng Nghymru
Bydd ap newydd sydd yn galluogi menywod beichiog yng Nghymru i gael gafael ar eu cofnodion meddygol bellach yn cael ei gyflwyno ar hyd a lled Cymru.
Fe fydd yr ap yn caniatáu darpar famau i weld eu cofnodion meddygol yn uniongyrchol ar ôl pob apwyntiad.
Bydd darpar famau hefyd yn cael gweld unrhyw apwyntiadau pellach sydd wedi’u trefnu yno yn ogystal â chreu cofnodion ynglŷn â manylion personol, er enghraifft ble maen nhw eisiau rhoi genedigaeth ac unrhyw alergeddau sydd ganddyn nhw.
Byddan nhw hefyd yn cael dysgu mwy am ddatblygiad eu babi a gweld datblygiadau'n wythnosol a chael rhoi darlleniad pwysedd gwaed os bydd eu bydwraig wedi gofyn amdano.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn y de ddwyrain yw'r cyntaf yng Nghymru i gyflwyno'r system ddigidol newydd, sydd yn cynnwys cofnod electronig hefyd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fydd yr ail.
'Rhoi llais' i ddarpar famau
Bydd yr ap yn rhoi “cymorth pwrpasol i fenywod sy’n agored i niwed” gan sicrhau eu bod yn cael eu brechu mewn da bryd, meddai Uwch-arweinydd Gwybodeg Arbenigol Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Elleanor Griffiths.
Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka: "I fenywod yng Nghymru, bydd cofnod digidol ar gyfer gofal mamolaeth yn fodd o gael y gofal iawn, ar yr adeg iawn, waeth ble maen nhw, gan helpu i hwyluso a chefnogi eu teithiau iechyd a mamolaeth.”
Fe fydd yr ap hefyd yn galluogi gweithwyr gofal i rannu gwybodaeth bwysig a gwneud penderfyniadau cyflym ar sail hynny, ychwanegodd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy ei bod yn “gyffrous” gweld ap newydd o’r fath cael ei gyflwyno yng Nghymru a fydd yn “rhoi llais” i ddarpar famau'r wlad.
Dylai ap a chofnod mamolaeth electronig fod ar gael ym mhob rhan o Gymru erbyn mis Mawrth 2026, medd Llywodraeth Cymru.