Darganfod corff dyn a ddiflannodd yn ardal Cricieth
Ar ôl cyhoeddi apêl ddydd Sul am ei ddiflaniad, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod corff dyn wedi ei ddarganfod yn ardal Cricieth, Gwynedd.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu brynhawn Llun fod y dyn 92 oed a oedd yn cael ei adnabod fel William wedi ei ddarganfod yn farw ddydd Sul.
Dyw hi ddim yn ymddangos fod yna amgylchiadau amheus.
Diflannodd ddydd Sadwrn.
Dywedodd swyddogion ar pryd iddo gael ei weld ddiwethaf ar fws oedd yn teithio o Gaernarfon i gyfeiriad Cricieth.
Wedi'r datblygiad brynhawn Llun, ychwanegodd Heddlu Gogledd Cymru:"Rydym yn cydymdeimlo'n ddiffuant â theulu William sydd yn gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd hon.
"Rydym yn diolch i'n partneriaid, gwirfoddolwyr ac aelodau o'r cyhoedd a aeth allan i'n helpu i chwilio amdano."