Llywodraeth y DU i ailysgrifennu cytundeb Brexit Gogledd Iwerddon

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio ymgyrch i ailysgrifennu protocol Brexit Gogledd Iwerddon gan ddweud “na allwn barhau fel yr ydym.”
Wrth gynnig cynlluniau’r DU am gytundeb ffres roedd y Gweinidog Brexit, David Frost, wedi dadlau bod digon o amser ar gael i gytuno cyn rhoi’r gorau i’r cytundeb presennol.
Dywedodd yr Arglwydd Frost mai'r anawsterau mae llywodraeth San Steffan wedi’i wynebu wrth geisio gweithredu protocol Gogledd Iwerddon oedd y “prif rwystr” i sicrhau perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl The Guardian.
Ond ychwanegodd na fydd yn gweithredu erthygl 16 eto - proses sydd yn dadwneud y cytundeb - gan mai "nid dyma'r foment iawn i wneud hynny.”
Er hynny fe rybuddiodd yr Arglwydd Frost y bydd angen gwneud newidiadau arwyddocaol i brotocol Brexit Gogledd Iwerddon yn fuan.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Parliament TV