Newyddion S4C

Dyn o Ynys Môn i'w gadw yn y ddalfa ar gyhuddiadau camdrin domestig

30/12/2024
Llys Ynadon Llandudno

Mae saer maen o Ynys Môn wedi gwadu cyhuddiadau o gamdrin domestig dros gyfnod hir, gan gynnwys gorfodi dynes i dalu am 'stripper' ar ei gyfer.  

Yn Llys Ynadon Llandudno, gwadodd Daniel Williams, 26 oed o Newry Fields, Caergybi gyhuddiad o ymddygiad rheolaethol, yn ogystal â chyhuddiadau eraill hefyd, sef tagu dynes ac ymosod arni.  

Cafodd ei gais am fechnïaeth ei wrthod ac mae e wedi ei gadw yn y ddalfa. 

Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 27 Ionawr.   

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.