Newyddion S4C

Dros 400 o dafarndai wedi cau yng Nghymru a Lloegr

30/12/2024
Tafarndai yn cau

Mae nifer y tafarndai yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng yn is na 39,000 am y tro cyntaf erioed ar ôl i gannoedd o dafarndai lleol gau eu drysau am y tro olaf, yn ôl ymchwil diweddar.

Mae ystadegau swyddogol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awgrymu bod 412 o dafarndai wedi cau neu wedi eu trawsnewid i ddefnydd arall yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl ffigyrau gan yr arbenigwyr eiddo Altus Group, mae nifer y tafarndai yng Nghymru a Lloegr wedi disgyn i 38,989, sy'n cynnwys y rhai sy’n wag neu'n cael eu gosod.

Caeodd mwy na 34 o dafarndai eu drysau bob mis yn ystod y flwyddyn, a dyma’r gostyngiad mwyaf yn niferoedd tafarndai Cymru a Lloegr ers 2021, pan gafodd y sector ei daro’n galed gan gyfyngiadau'r pandemig a phrisiau ynni cynyddol.

Mae nifer y tafarndai yn y DU bellach wedi gostwng mwy na 2000 ers dechrau 2020.

Yn ôl arbenigwyr, mae’r gostyngiad hwn wedi digwydd oherwydd y cynnydd mewn costau byw, gyda'r cyhoedd yn llai parod i wario mewn tafarndai.

Dywedodd Alex Probyn, sy’n gweithio i Altus Group: “Mae llawer iawn o berchnogion tafarndai yr wyf wedi siarad â nhw yn bryderus iawn y gallai Nadolig eleni fod yr olaf iddynt wrth ystyried y cyfuniad o’r cynnydd y bydd yn rhaid i gyflogwyr ei dalu mewn Yswiriant Gwladol, codiadau i’r isafswm cyflog a’r gostyngiad ardrethi busnes yn cael ei dorri o 75% i 40% yn 2025.”

Dywedodd Emma McClarkin, prif weithredwr Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain: “Mae bragwyr a thafarndai yn arllwys biliynau i’r economi ac yn cynnig mwy na miliwn o swyddi, felly rydym yn gwybod y gall tafarndai yn cau gael effaith drychinebus ar goffrau pobl a’r farchnad swyddi.”

“Rydym yn barod i helpu Llywodraeth y DU i gyflwyno newid y mae dirfawr ei angen a fydd yn chwalu’r rhwystrau sy’n atal ein sector rhag cyfrannu hyd yn oed yn fwy i’r economi, a chyflogi mwy o bobl nag erioed o’r blaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.