Ail-agor ffordd rhwng Machynlleth a Dolgellau ar ôl tirlithriad
Mae ffordd rhwng Machynlleth a Dolgellau wedi ail-agor rai wythnosau ar ôl tirlithriad, gyda goleuadau traffig dros dro wedi eu gosod yno.
Roedd yr A487 yn Rhiw Gwgan rhwng Minffordd a Chorris wedi bod ar gau ers wythnos gyntaf Rhagfyr.
Ar 7 Rhagfyr, achosodd tirlithriad ddifrod i'r ffordd yn ystod Storm Darragh.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd y byddai'r ffordd ar gau am “resymau diogelwch” oherwydd bod “cyflwr y tir ansefydlog uwchben y ffordd”.
Bu'n rhaid i deithwyr rhwng Dolgellau a Machynlleth yrru 20 milltir dros Fwlch yr Oerddrws drwy bentref Mallwyd yn ystod y cyfnod hwnnw.
Ond ddydd Llun cyhoeddodd Traffig Cymru bod y ffordd wedi ail-agor "gyda mesurau dros dro yn cynnwys goleuadau traffig, rhwystrau, a system dal malurion i gadw pawb yn ddiogel."
Inline Tweet: https://twitter.com/TraffigCymruG/status/1873626248062304402
Mae mesurau eraill yn eu lle yn cynnwys gosod blociau concrit yn y lôn.
Mae gwasanaethau bws wedi ail ddechrau ar hyd y ffordd hefyd ar 30 Rhagfyr.
Llun: Cyflwr y ffordd fore Sadwrn 7 Rhagfyr (Llun gan Martin Jones).