Newyddion S4C

Rhybudd am bron i droedfedd o eira mewn rhannau o ganolbarth a gogledd Cymru

Rhybudd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi diweddariad am rybudd o eira "trwm" ar y penwythnos gan ddweud y gallai bron i droedfedd syrthio mewn rhannau o ganolbarth a gogledd Cymru.

Bydd y rhybudd eira newydd yn parhau o hanner dydd ddydd Sadwrn nes hanner nos ddydd Sul ac yn effeithio ar Gymru gyfan.

Nid oedd Ynys Môn wedi ei gynnwys yn y rhybudd gwreiddiol ond mae'n rhan o'r rhybudd newydd.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai cymunedau gwledig golli cysylltiadau dros y penwythnos, gyda hyd at 20-30cm yn syrthio ar dir uchel yng Nghymru.

Fe allai ysgolion orfod cau ac mae yna siawns o doriadau pŵer a chau ffyrdd yn ogystal ag oedi a chanslo hediadau a threnau, medden nhw.

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd bellach yn rhybuddio y gallai'r eira droi yn law rhewllyd ddydd Sul.

Daw'r rhybudd eira wedi rhybudd am rew mewn rhannau o’r gogledd fore dydd Iau.

Mae'r tymheredd wedi gostwng ar ôl nos a dydd Calan gwlyb a gwyntog a welodd llifogydd a thirlithriadau mewn sawl rhan o’r gogledd.

Dywedodd Marco Petagna, uwch feteorolegydd y Swyddfa Dywydd y bydd rhagor o fanylion i ddod am yr eira a bod yna rywfaint o ansicrwydd ar hyn o bryd: “Ddydd Gwener rwy’n meddwl y byddwn yn gweld rhagor o rybuddion eira a rhew yn cael eu cyhoeddi.”

Dywedodd meteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Tom Morgan: “Ar hyn o bryd rydym wedi cyhoeddi rhybudd eira mawr iawn ar gyfer dydd Sadwrn tan ddydd Llun.

“Ond nid yw’n golygu y bydd pobman o fewn y rhybudd hwnnw yn gweld eira, dim ond i bobl gadw mewn cof y gallen nhw gael eu heffeithio.”

Map mapiau'r Swyddfa Dywydd yn awgrymu ar hyn o bryd y gallai unrhyw eira daro Cymru tua 6pm ddydd Sadwrn cyn troi'n law ddydd Sul.

Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi cyhoeddi rhybuddion iechyd tywydd oer ledled Lloegr.

Mae rhybuddion oren wedi'u cyhoeddi o 12pm ddydd Iau tan Ionawr 8. Nid yw'r corff yn gyfrifol am rybuddion tywydd oer yng Nghymru.

Yn y cyfamser roedd effaith y tywydd gwlyb a gwyntog ddydd Mawrth a Mercher yn parhau ar y ffyrdd fore Iau.

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru bedwar rhybudd am lifogydd, gyda thri ohonynt yn y canolbarth ger ardal Y Trallwng, a rhybudd y gallai Afon Hafren orlifo.

Mae rhybudd hefyd mewn grym i Lanymynech lle mae Afon Efyrnwy yn llifo trwyddo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.