Newyddion S4C

Ymadawiad Prif Weithredwr S4C ‘ddim am amharu’ ar setliad ariannol y sianel

21/07/2021
Owen Evans

Dyw Prif Weithredwr S4C ddim yn credu y bydd ei ymadawiad o’r swydd yn y misoedd nesaf yn cael effaith ar setliad ariannol y sianel ar gyfer 2022-2027.

Roedd Owen Evans yn siarad wrth i S4C gyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2020/21.

Cafodd y newyddion fod Mr Evans yn gadael S4C ei adrodd yn y wasg yn gynharach yn y mis - digwyddiad mae Mr Evans yn ei ddisgrifio fel “cawlach llwyr”.

Mae disgwyl iddo ymuno fel Prif Arolygwr Estyn ddiwedd y flwyddyn, os caiff y penodiad sêl bendith y Cyfrin Gyngor.

“Dwi’n dod o gefndir lle treuliais i saith mlynedd yn gweithio mewn addysg yn y llywodraeth,” meddai.

“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn addysg a dwi di cadw mewn rhyw fath o gyswllt gyda’r pwnc ers gadael y llywodraeth. 

“Gobeithio cawn ni setliad da gan DCMS, ac ar yr adeg ‘ny, dwi’n credu bod e’n iawn adael a rhywun arall ddod mewn, achos mae swyddi fel pennaeth Estyn ddim yn dod lan yn aml iawn.

“Roedd hwn yn siawns i fi ‘neud rhywbeth newydd, unwaith eto,” meddai.

Image
Canolfan S4C Yr Egin
Symudodd S4C eu pencadalys i Ganolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin yn 2018 (Llun: S4C)

Mae Mr Evans yn mynnu fod ganddo “berthynas dda” gydag Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan.

“Pan nes i ffonio DCMS, yr unig beth wnaethon nhw ofyn os oeddwn ni yn mynd i fod o gwmpas i weld y broses trwyddo, a nes i gadarnhau y byswn i.

“Felly sai’n credu y bydd y ffaith bo fi’n gadael yn effeithio ar y setliad ei hun.

“Yr unig beth wnaeth y DCMS ofyn oedd bo fi’n parhau wrth y llyw nes bod y broses ei hun wedi beni. A dwi’n gobeithio y bydd y broses wedi gorffen mis Medi neu fis Hydref, felly digon o amser i beni’r proses na.”

Wrth siarad yn gynharach ddydd Mercher, dywedodd Cadeirydd S4C Rhodri Williams na fydd newid yn yr arweinyddiaeth yn “cael effaith andwyol” ar waith y sianel.

Dywedodd Mr Williams: “Owen Evans yw’r prif weithredwr ar hyn o bryd, ac yn mynd i fod am y dyfodol rhagweladwy.

“Wrth gwrs, mae pobl, cadeiryddion, aelodau o’r bwrdd, aelodau o’r staff yn newid dros amser, fel sy’n digwydd ym mhob sefydliad.

“Dwi’n credu y sialens pan mae newidiadau o’r fath yn digwydd, yw sicrhau nad yw hynny yn ansefydlogi naill ai’r sefydliad ei hunain, ei bartneriaid yn y gymuned greadigol, na dim arall.

“A dwi’n hyderus bod gynno ni dîm yn S4C sydd yn gadarn yn eu dealltwriaeth o’r hyn maen nhw’n ei wneud.”

Ychwanegodd: “Dwi’n credu fod ganddon ni’r gefnogaeth angenrheidiol yna i’r staff i sicrhau nad oes unrhyw newid yn y tîm arweinyddol yn cael effaith andwyol arnon ni.”

Ddydd Mercher cafodd adroddiad blynyddol y sianel ei gyhoeddi.

Yn ei gyflwyniad, mae’r Cadeirydd yn nodi fod y sector wedi addasu yn “hyblyg a chwim” i’r pandemig, gyda nifer o gynyrchiadau yn cael eu gohirio neu newid o ganlyniad.

Roedd cynnydd o 6% mewn cyfartaledd gwylio oriau brig, yn ogystal â chynnydd o 5% mewn cyrhaeddiad wythnosol.

'Dipyn o waith i'w wneud'

Er bod cynnydd o 45% yn oriau gwylio S4C Clic, dywedodd Mr Williams fod “dipyn o waith i’w wneud” wrth sicrhau nad ydy’r sianel yn disgyn ar ôl gwasanaethau eraill yn ddigidol.

“Dechrau ar y daith i ni, dim diwedd,” meddai.

“Mae unrhyw gyfundrefn fel un ni, yn enwedig un sy’n dibynnu ar arian cyhoeddus, mae’n rhaid blaenoriaethu – mae’n rhaid gwneud dewisiadau anodd.

“Bydd yn rhaid blaenoriaethu, bydd yn rhaid penderfynu pa elfennau o’r amrywiaeth eang o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan S4C sy’n rhaid cael blaenoriaeth, a pa rai ydyn ni’n gallu byw hebddyn nhw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.