Caernarfon: Ffyrdd wedi ail agor ar ôl i ran o adeilad ddymchwel
Mae ffyrdd oedd ar ar gau yng nghanol Caernarfon nos Sul bellach wedi ail agor wedi i ran o adeilad ddymchwel yn y dref.
Cyhoeddodd yr heddlu nos Sul bod Ffordd y Bont Bridd a Ffordd y Goron ar gau.
Cyhoeddodd Heddlu'r Gogledd ddiweddariad fore Llun yn nodi bod y ffyrdd wedi ail-agor.
Ac maen nhw wedi diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd.
Yn ôl un llygad dyst oedd mewn bwyty cyfagos, fe gafodd y ffyrdd eu cau gan fod pryder y gallai rhannau eraill o'r adeilad ddymchwel i'r ffordd gerllaw.
Nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi ei anafu.