Newyddion S4C

Trin ymosodiad a laddodd 10 yn New Orleans fel un terfysgol

New Orleans

Mae’r FBI wedi dweud bod ymosodiad ar dyrfa yn New Orleans yn oriau mân y bore ar nos Galan yn cael ei drin fel un “terfysgol”.

Cafodd 10 o bobl eu lladd ac o leiaf 35 eu hanafu ar ôl i ddyn yrru tryc ‘pickup’ i mewn i dyrfa fawr.

Digwyddodd tua 03.15 (09.15 GMT) yn Ardal Ffrengig New Orleans, sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr â’r ddinas yn nhalaith Louisiana.

Y gred yw mai Shamsud Din Jabbar, 42 oed o dalaith Texas, oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, yn ôl swyddogion ffederal yn yr UDA sydd wedi siarad â'r cyfryngau yn y DU.

Mae’r FBI bellach wedi dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i faner sydd yn cefnogi un o grwpiau terfysgol yr IS yng ngherbyd Mr Jabbar. 

Roedden nhw wedi rhyddhau datganiad yn gynharach yn cadarnhau bod yr unigolyn a yrrodd y tryc wedi marw. 

“Y bore yma, gyrrodd unigolyn gar i mewn i dorf o bobl ar Bourbon Street yn New Orleans, gan ladd nifer o bobl ac anafu dwsinau o rai eraill,” medden nhw.

Dywedodd y datganiad bod y dyn wedyn wedi saethu at yr heddlu lleol, a’i fod bellach wedi marw.

"Yr FBI sy’n arwain yr ymchwiliad, ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid gan drin hyn fel ymosodiad terfysgol," meddai.

Dywed Uwcharolygydd New Orleans, Anne Kirkpatrick, fod y sawl a ddrwgdybir wedi ymddwyn mewn modd “bwriadol” a’i fod yn “ceisio rhedeg dros gymaint o bobl ag y gallai”.

Ychwanegodd fod yr unigolyn "wedi gwneud ymdrech i greu'r lladdfa a'r difrod a wnaeth".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.