Cyhoeddi rhybudd eira i Gymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd eira i Gymru o ddydd Sadwrn nes ddydd Llun.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai "eira trwm" achosi aflonyddwch ac oedi, gyda hyd at 20-30cm yn syrthio ar dir uchel yng Nghymru.
Mae’r rhybudd melyn yn effeithio ar Gymru gyfan heblaw am rannau o Ynys Môn.
Bydd mewn grym o hanner dydd ddydd Sadwrn nes 9.00 ddydd Llun.
"Ar hyn o bryd, rhannau o ganolbarth Lloegr, Cymru a gogledd Lloegr sydd fwyaf mewn perygl o gael eu heffeithio," medden nhw.
"Gallai 5cm neu fwy syrthio'n weddol eang, gydag efallai cymaint ag 20-30 cm dros dir uchel Cymru a/neu’r Pennines."
Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd am rew i rannau o ogledd a chanolbarth Cymru o 16.00 ddydd Mercher hyd nes 10.00 ddydd Iau.
Daw’r rhybuddion am dywydd oer wrth i filiau ynni godi eto.
Mae cap y rheoleiddiwr Ofgem ar filiau ynni wedi codi 1.2% o’r 1af o Ionawr ymlaen ac mae rhagweld y byddwn nhw’n codi 3% arall ym mis Ebrill.
Mae miliynau o bensiynwyr yn wynebu gaeaf gyda llai o gefnogaeth i dalu'r biliau, ar ôl i’r Llywodraeth benderfynu sgrapio taliadau tanwydd gaeaf i’r rhai sydd ddim yn derbyn credyd pensiwn na budd-daliadau eraill.
Bydd tua 10 miliwn o bensiynwyr yn colli allan ar y taliadau o hyd at £300 eleni.