Newyddion S4C

Llifogydd wedi rhybuddion melyn am wynt a glaw ar ddydd Calan

Llifogydd wedi rhybuddion melyn am wynt a glaw ar ddydd Calan

Mae adroddiadau am lifogydd mewn sawl rhan o Gymru ar ôl i rybudd melyn am law trwm ddod i ben fore dydd Calan.

Fe wnaeth y rhybudd melyn barhau tan 11:00 ddydd Mercher, ond roedd nifer o ffyrdd yn parhau ar gau o ganlyniad i lifogydd a thirlithriadau brynhawn Mercher.

Roedd 11 rhybudd fod disgwyl llifogydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru fore dydd Mercher, gyda'r nifer yn gostwng i bump erbyn diwedd y prynhawn.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod llifogydd wedi cau ffordd ar yr A494 ym Mhont Lliw ger Llanuwchllyn, Y Bala.

Roedd car wedi mynd yn sownd yn y dŵr ac roedd angen cymorth ar gwpwl oedrannus i gyrraedd tir sych.

Roedd tirlithriad hefyd wedi cau ffordd yr A470 ger Dolgellau, dridiau yn unig ar ôl agor ffordd arall gerllaw fu ar gau am rai wythnosau.

Fe gyhoeddodd Heddlu'r Gogledd brynhawn Mercher bod Ffordd Dinbych Isaf B5381 o Drefnant yn Sir Ddinbych tuag at gylchfan ger Ffordd Glascoed hefyd wedi cau.

Roedd llifogydd yn yr ardal wedi achosi tirlithriad yno, medden nhw, ac mae disgwyl i'r ffordd barhau ar gau am gyfnod. 

Roedd llifogydd hefyd yn effeithio ar ffyrdd yn Llandygái, Bangor, Ffordd Treborth, Bangor a'r B5111 yn Rhosybol, Ynys Môn.

Ar yr A44 i'r dwyrain o Aberystwyth mae swyddogion wedi gosod goleuadau traffig dros dro oherwydd llifogydd, a fydd yn debygol o achosi oedi. 

Roedd llifogydd hefyd wedi cau ffordd yr A487 rhwng Machynlleth a Ffwrnais ger Derwenlas brynhawn Mercher.

Dywedodd Traffig Cymru bod cyfyngiadau 30mya mewn grym ar gyfer beiciau, beiciau modur a charafanau oedd yn teithio ar hyd Pont Britannia am gyfnod oherwydd gwyntoedd cryfion. 

Gohirio digwyddiadau dydd Calan

Roedd rhai digwyddiadau nos Galan a dydd Calan yng Nghymru wedi cael eu canslo a'u gohirio oherwydd y tywydd.

Ni fydd trochfa dydd Calan Porthdinllaen yn cael ei chynnal tan y Pasg.

Mewn datganiad dywedodd RNLI Porthdinllaen: “Yn anffodus rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i ohirio Trochfa Dydd Calan RNLI Porthdinllaen  - hynny oherwydd y rhagolygon tywydd ar gyfer yfory, ac er mwyn diogelwch pawb oedd yn bwriadu cymryd rhan.

“Bydd mwy o fanylion ar gyfer y dyddiad newydd, ac ad-daliadau ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru ar-lein, i ddilyn yn fuan.”

Yn ogystal, cafodd dathliad Nos Galan ar pier Bangor nos Fawrth hefyd ei ganslo am resymau diogelwch.

Nid oedd arddangosfa tân gwyllt am hanner nos ym Miwmares hefyd a hynny oherwydd nad oedd “arwydd bod rhagolygon y tywydd am wella".

Yn yr Alban, roedd dathliadau'r Calan yn yr awyr agored wedi eu canslo yng Nghaeredin oherwydd pryderon am dywydd eithafol.

Rhybuddion

Roedd y rhybudd glaw trwm mewn grym yn y siroedd canlynol nes 11.00 fore Mercher:

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr 
  • Caerffili
  • Caerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Wrecsam

Roedd rhybudd melyn arall am wyntoedd cryfion ar gyfer Cymru gyfan, heb law am Ynys Môn, rhwng 00:15 a 15:00 ddydd Mercher 1 Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.