AS Llafur wedi ei hatal 'yn wirfoddol' o'i phlaid wedi i'w gŵr gael ei arestio ar amheuaeth o ysbïo dros Tsieina

Joani Reid / David Taylor

Mae AS Llafur wedi ei hatal "yn wirfoddol" o'i phlaid wedi i'w gŵr gael ei arestio ar amheuaeth o ysbïo dros Tsieina.

Fe gafodd David Taylor, sy'n gyn-ymgynghorydd i wleidyddion y blaid yng Nghymru, ei arestio ynghyd â dau o bobl eraill mewn cysylltiad i ymchwiliad sy'n ymwneud ag ysbïo ar ran Tsieina.

Mae David Taylor yn ŵr i'r AS Llafur dros Ddwyrain Kilbride a Strathaven, Joani Reid.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Reid ei bod yn "gwahardd ei hun yn wirfoddol" o'r blaid tra bod ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal.

Mae Mr Taylor a dau o bobl eraill gafodd eu harestio ddydd Iau bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth gan yr heddlu fore Iau.

Cafodd dau ohonynt eu harestio yng Nghymru. 

Dywedodd Heddlu'r Met fod dyn 68 oed ym Mhowys a dyn 43 oed ym Mhontyclun hefyd wedi eu harestio.

Roeddent hefyd wedi arestio dyn 39 oed mewn cyfeiriad yn Llundain.

Roedd y tri dyn wedi eu harestio ddydd Mercher ar amheuaeth o gynorthwyo gwasanaeth cuddwybodaeth o dramor, yn groes i adran 3 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol, 2023.

Dywedodd Heddlu'r Met mai Tsieina yw'r wlad y mae'r ymchwiliad yn ymwneud â hi.

Mae David Taylor yn gyn-ymgynghorydd gwleidyddol i Peter Hain, cyn-Ysgrifennydd Cymru, ac roedd yn ymgeisydd ar gyfer swydd Comisiynydd yr Heddlu Gogledd Cymru yn 2016.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.