Reform yn addo disodli targedau 'mympwyol' ar gyfer y Gymraeg
Mae plaid Reform UK wedi gwneud addewid i gefnogi'r iaith Gymraeg wrth lansio maniffesto'r blaid yng Nghasnewydd ddydd Iau.
Mae eu haddewidion yn cynnwys cefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol, a phwyso ar Lywodraeth San Steffan i barhau i gefnogi S4C.
Dywedodd y blaid hefyd eu bod nhw'n bwriadu disodli targedau "mympwyol" ar gyfer yr iaith, ac fe ychwanegodd arweinydd y blaid Nigel Farage AS nad oedd angen "cwangos" chwaith wrth gael ei holi am swydd Comisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd Nigel Farage bod yr ymdrech sydd wedi mynd i lunio'r maniffesto “wedi gwneud argraff” arno.
“Mae’r pleidiau eraill wedi datgelu polisïau ffantasi, ond mae’r ddogfen yma’n gynllun difrifol i sicrhau’r newid go iawn mae Cymru’n ei haeddu,” meddai.
“Dw i’n edrych ymlaen at ymgyrchu ochr yn ochr â Dan Thomas [arweinydd Reform UK yng Nghymru] a thîm Cymru rhwng nawr a 7 Mai.”
Bydd etholiad Senedd Cymru yn refferendwm ar brif weinidogaeth Syr Keir Starmer, meddai Nigel Farage.
Dywedodd Mr Farage wrth y digwyddiad yng Nghasnewydd: “Bydd 7 Mai yn dod â goruchafiaeth Llafur yng Nghymru i ben, yn enwedig yn y Cymoedd.
“Ac, os ydyn ni’n cael hyn yn iawn, fe wnawn ni gael gwared ar y Prif Weinidog gwaethaf mae unrhyw un ohonom ni wedi’i weld yn ystod ein hoes.”
Fel y Ceidwadwyr, bydd maniffesto Reform yn addo adeiladu ffordd osgoi newydd yr M4, yn ogystal â gwelliannau i’r A55.
Maen nhw hefyd yn bwriadu dileu'r terfyn cyflymder 20mya.
Maen nhw yn addo dileu’r polisi ‘Cenedl Noddfa’ sy’n integreiddio ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru.
Mae’r blaid hefyd yn addo blaenoriaethu pobl Cymru ar gyfer tai cymdeithasol, a rhoi diwedd ar ddefnyddio gwestai mudwyr yng nghymunedau Cymru.
Yn ogystal â hyn, mae'r maniffesto yn addo diwygio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy "i ganiatáu i ffermwyr ffermio".
Un o brif flaenoriaethau'r maniffesto yw i "Roi Pobl Cymru yn gyntaf", gan addo i roi diwedd ar gefnogaeth ariannol "i fudwyr economaidd anghyfreithlon", gwrthod gwestai a thai o amlfeddiannaeth (HMOs) i fudwyr a dileu gwariant rhyngwladol.
Ymateb
Mae Plaid Cymru wedi dweud ei fod yn "amhosib dweud y gwahaniaeth rhwng maniffesto Reform a maniffesto'r Torïaid".
"Ond dyw hynny ddim syndod o ystyried bod y mwyafrif helaeth o'u gwleidyddion yn Dorïaid aflwyddiannus," meddai llefarydd Plaid Cymru.
"Penderfynodd Nigel Farage a'i ddirprwy o Gymru dreulio rhan fwyaf o'u hareithiau yn siarad am faterion y tu allan i Gymru, gyda'u ffocws ar gael eu harweinydd i mewn i 10 Stryd Downing ac nid ar sut i wella bywydau pobl Cymru."
Ychwanegodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: "Dyma faniffesto'r Torïaid mewn dillad Reform, gyda biliynau mewn addewidion sydd heb gostiadau, torri miloedd o swyddi a dim addewid i gadw'r Gwasanaeth Iechyd allan o ddwylo preifat sy'n edrych am elw.
“Toriadau gyda Reform, 'effeithlonrwydd' a 'materion costio' gyda Plaid Cymru - dyw naill un ddim yn onest am sut y byddent yn talu am eu rhestrau o ddymuniadau."
‘Rhyddid mynegiant’
Mae arweinwyr Reform UK wedi cael eu beirniadu wedi i newyddiadurwr ddweud nad oedd wedi cael caniatâd i fynd i lansiad eu maniffesto.
Dywedodd y newyddiadurwr gwleidyddol Will Hayward nad oedd wedi cael caniatâd i fynychu lansiad maniffesto Reform.
Dywedodd MrHayward bod “gwahardd newyddiadurwyr yn debyg iawn i beth fyddai Donald Trump yn ei wneud ac yn tanseilio un o brif golofnau ein democratiaeth”.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig hefyd wedi cyhuddo Reform o sensoriaeth am atal Mr Hayward rhag mynd yno.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds AS, bod Reform “wrth eu bodd yn portreadu eu hunain fel amddiffynwyr rhyddid mynegiant, ond y funud y gallai newyddiadurwr ofyn cwestiynau caled, maen nhw’n troi at sensoriaeth.
“Dydy o ddim yn rhyddid mynegiant os dim ond y rhai sy’n cytuno â chi sy’n cael siarad, gofyn cwestiynau neu gymryd rhan,” meddai.
Mae Reform UK wedi cael cais am ymateb.
