Mae aelodau Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio o blaid cyhoeddi rhybudd statudol i gau dwy o ysgolion cynradd y sir.
Fe fydd ysgolion Clydau a Maenorbŷr yn cau ar ddiwedd tymor yr haf.
O un bleidlais yn unig, penderfynodd y cyngor llawn i gefnogi argymhelliad i gau Ysgol Clydau ym mhentref Tegryn.
Fe bleidleisiodd 26 o blaid y cynnig, gyda 25 yn erbyn, gydag un cynghorydd yn ymatal eu pleidlais.
Fe fydd yr ysgol yn cau yn swyddogol ar ddiwedd mis Awst eleni, gyda'r disgyblion yn cael eu trosglwyddo i Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych, sydd yn ysgol cyfrwng Cymraeg arall.
Ar ôl siarad yn y siambr, o blaid cadw'r ysgol ar agor, dywedodd y Cynghorydd Iwan Ward y byddai'r penderfyniad yn "ergyd fawr i'r Gymraeg" yn y gymuned wledig.
"Rwy'n siomedig bod ni wedi colli. Ni wedi batlo yn galed. Siomedig i golli o un. Mae'r iaith Gymraeg yn mynd i gael ei effeithio yn fawr iawn. Y gwir fydd y gymuned yn syffro. Fe fydd y pentref i bobl ymddeol," meddai.
Mae rhyw 20 o blant ar ôl yn Ysgol Clydau. Clywodd y cyfarfod bod y gost o addysgu plant mewn ysgolion bach gwledig yn gynyddol ddrud, a llefydd gwag ar gynnydd.
Image
Rhieni a phlant Ysgol Clydau tu allan i neuadd y sir
Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, Guy Woodham, wrth Newyddion S4C mai dyma oedd "un o'r diwrnodau anoddaf iddo ers iddo gael ei ethol yn gynghorydd 14 mlynedd nôl.
"Ni yma oherwydd y llefydd gwag. Nid problem yn Sir Benfro yw hon. Roedd rhaid i Sir Gaerfyrddin wneud penderfyniad tebyg ddoe, mae hon yn broblem ar draws Cymru."
Penderfynodd y cynghorwyr hefyd i gau Ysgol Maenorbŷr, er bod yna addewid dair blynedd yn ôl i'w hail-adeiladu yn dilyn tân wnaeth ddinistrio'r adeilad.
Mae'r plant wedi cael eu haddysgu mewn neuadd ym mhentref Jameston ers hynny.
Image
Rhieni a phlant Ysgol Clydau yn aros am y bleidlais
Fe wnaeth y Cynghorydd lleol, Phil Kidney, apêl daer i'r cynghorwyr wrthod yr argymhelliad i gau.
Fe bleidleisiodd 29 o blaid cau Ysgol Maenorbŷr, gyda 20 yn erbyn.
Fe fydd disgwyl i'r 25 o blant sydd yno symud i Ysgol St Florence ar ôl yr haf.
Penderfynodd y cynghorwyr hefyd i gynnal ymgynghoriad ar gynnig i gau ysgolion Stepaside a Saundersfoot, gyda'r bwriad o greu un ysgol ar safle presennol Saundersfoot.
Fe godwyd pryderon y gallai hynny amharu ar addysg plant o'r gymuned Sipsiwn a theithwyr, gyda rhyw 30% o deuluoedd o'r gymuned honno yn Ysgol Stepaside.
Fe fydd yr ymgynghoriad yn mynd yn ei flaen serch hynny.