Galw am fwy o swyddi creadigol yng ngogledd Cymru

Mabli Non Jones

Mae dynes ifanc o Fethesda yn galw am fwy o swyddi yn y diwydiannau creadigol yng ngogledd Cymru.

Roedd yn rhaid i Mabli Non Jones symud o'i chartref i weithio yn Llundain er mwyn gallu cynnal gyrfa fel artist 3D a thechnegydd prosthetig yn y diwydiant ffilm, meddai.

Nid Mabli yw'r unig berson sydd wedi gorfod gadael Cymru er mwyn dilyn gyrfa, gydag ymchwil gan Lywodraeth y DU yn dangos bod pedwar ym mhob 10 person ifanc sy’n dod o ardaloedd gwledig yn byw y tu allan i Gymru erbyn 2028.

Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, mae 3,030 o gwmnïau yn y sector creadigol yn gweithredu yng Nghaerdydd, o gymharu â 330 yn ardal Gwynedd.

Yn wreiddiol o Gerlan ger Bethesda yn Nyffryn Ogwen, symudodd Mabli i Lundain i astudio gradd mewn effeithiau 3D, ac mae hi erbyn hyn yn gweithio ar gyfres sy’n cael ei ffilmio yn stiwdio Warner Bros

Wrth sgwrsio gyda Newyddion S4C, mynegodd sut “mi oedd yna un cwrs ym Mhrydain i gyd oedd yn gneud yn union be oeddwn i isho astudio [a hwnnw] yn Llundain”.

Mae symud i Lundain o ogledd Cymru er mwyn cael mwy o gyfleoedd fel artist llawrydd yn ddewis “sy’n gneud cwbl synnwyr os yn meddwl am yr arian sydd yn cael ei bwmpio mewn i sefydlu gyrfaoedd i artistiaid yma," meddai.

Image
Mabli Non Jones
Mabli yn gweithio ar set yn Llundain. (Llun: Mabli Non Jones)

Yn cydnabod y byddai agor stiwdio o faint tebyg i’r rhai sydd yn Llundain yn “sbwylio prydferthwch a thawelwch” ei chartref hi yn Eryri, mae Mabli’n teimlo y dylai cwmnïau gymryd ysbrydoliaeth gan y gweithdai annibynnol, llai mae hi wedi gweithio iddynt.

“’Dwi’n meddwl bod gweithio ar brosiectau ar raddfa fel beth sydd ar gael yng Nghaerdydd ac yn enwedig Llundain yn amlwg yn anodd i ffeindio," dywedodd.

“Lle fyddai’r gwaith yn cael eu creu [yn y gogledd] ac wedyn yn cael eu hanfon ymlaen i lefydd fel Llundain, mi fyddai hynny yn berffaith er mwyn cael sicrhau cael cario 'mlaen gneud y gwaith dwi isho tra’n cael byw adra.”

Wrth drafod y gymuned greadigol sy’n bodoli yng ngogledd Cymru, dywedodd Mabli fod talent yn sicr i'w gael yn yr ardal, ac y byddai’n “braf pe bai’r cwmnïau mawr fel yr un dwi’n gweithio i ar hyn o bryd, yn sylweddoli cymaint o gyfleoedd sydd yna i weithio hefo artistiaid talentog”. 

'Dim yn gwybod lle i fynd'

Mae Buddug Watcyn Roberts yn artist sy’n gweithio fel ymarferydd creadigol llawrydd yn lleol i ardal Bangor a gogledd Cymru; swydd sy’n cynnwys sawl rôl, gan gynnwys ysgrifennu, creu a chydlynu.

Credai bod digon o gyfleoedd yn y gogledd, ond bod y rheiny ddim yn cael eu hysbysebu ddigon amlwg ac o ganlyniad mae pobl yn gadael yr ardal er mwy chwilio am swyddi.

“Doedd o 'rioed yn fwriad penodol gen i, i aros yn lleol - jesd fel’na nath o ddigwydd”, meddai wrth Newyddion S4C.

“Mae’r celfyddydau’n allweddol i ni ddeall ein hunain fel pobl, yng Nghymru a thu hwnt a tydi’r pwyslais sy’n cael ei roi arno ddim chwarter digon.

"Dwi’n teimlo fod 'na gyfleoedd yma, ond yn anffodus tydi pobl ddim yn gwybod lle i fynd i’w darganfod."

Image
Buddug Roberts
Mae Buddug yn cynnal sawl gweithdy creadigol fel rhan o'i swydd. (Llun: Buddug Roberts)

'Cofio bod y gogledd yn bodoli'

Ychwanegodd Buddug Roberts bod angen “cydnabyddiaeth” ac “ariannu” er mwyn cefnogi artistiaid llawrydd fel hi.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r nifer o weithwyr llawrydd sy’n cyfaddef i gael trafferth dod o hyd i waith wedi cynyddu o 31% i 69% yn y blynyddoedd diwethaf.

“Mae bron fel petai bo’ arianwyr wedi cofio bo’r gogledd yn bodoli yn y blynyddoedd diwethaf," meddai Buddug.

"Ond dydi o dal ddim yn ddigon i gyd-fynd a’r arian mae ardaloedd eraill neu yn ne Cymru yn eu cael.”

Dywedodd Buddug fod “gennym ni lawer i ddysgu” gan Iwerddon, sydd yn gwneud “camau gwych” yn sefydlu’r cynllun Basic Income for the Art, sy’n rhoi £325 yn wythnosol i artistiaid.

“Mae ‘na waith arbennig yn cael ei wneud yn y gogledd – mae’n biti bod elfen fawr ohonno’n gorfod bod yn lafur cariad yn sgil diffyg arian.”

Image
Noson 'Anian' yng Ngwynedd
Noson 'Anian' yng Ngwynedd

'Her' 

Er mwyn ceisio goresgyn heriau i artistiaid llawrydd yn y diwydiant creadigol, mae cymuned greadigol wedi ei sefydlu yng Ngwynedd er mwyn i artistiaid llawrydd gwrdd.

Mae ‘Anian’ yn gymuned ar gyfer llawryddion proffesiynol a chreadigol i gyfarfod, cysylltu a rhannu, mewn awyrgylch anffurfiol, yn adeilad Llofft, Y Felinheli.

Cafodd ei sefydlu am fod "prinder cyfleoedd i unigolion llawrydd ddod at ei gilydd yn rheolaidd mewn gofod diogel, i gysylltu a chymdeithasu."

Dywedodd cyd-sylfaenydd y gymuned a pherchennog Llofft, Elen ap Robert, bod tirlun creadigol Gogledd Cymru fel un “unigryw”.

“Tra’i fod yn bwysig i bobl ifanc allu symud i ffwrdd i gael profiadau newydd – yr her i ni sydd yma yw efallai cynnig digon o gyfleoedd ac amgylchedd apelgar iddynt."

Hyd yn hyn, mae Anian wedi cyflawni sawl noson, yn ffocysu ar “Bywyd, Comedi, Celf a Cherddoriaeth”, a’u gobaith at y dyfodol yw trefnu mwy o nosweithiau yn y Gwanwyn.

Prif lun: Mabli Non Jones yn gweithio gyda'r actor, Luke Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.