A470: Tirlithriad yn cau ffordd arall ger Dolgellau
Fe wnaeth tirlithriad gau ffordd yr A470 ger Dolgellau am gyfnod ddydd Mercher, dridiau yn unig ar ôl agor ffordd arall gerllaw fu ar gau am rai wythnosau.
Dywedodd yr heddlu ben bore Mercher bod yr A470 ym Mwlch yr Oerddrws, ger Dinas Mawddwy, ar gau oherwydd tirlithriad. Fe ail-agorodd wedi 15.00.
Daw wedi rhybudd melyn am law trwm nos Galan.
Nos Sul cyhoeddodd Traffic Cymru bod yr A487 yn Rhiw Gwgan rhwng Minffordd a Chorris wedi ail agor.
Roedd wedi bod ar gau ers wythnos gyntaf Rhagfyr ar ôl tirlithriad. Mae goleuadau traffig dros dro wedi eu gosod yno.
Bydd yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach hefyd ar gau rhwng 20 Ionawr ag 11 Ebrill.
Bydd y gwaith hwnnw yn datrys “unwaith ac am byth” broblem y wal sy'n cynnal y ffordd, meddai Llywodraeth Cymru.
Disgynnodd honno ym mis Hydref 2023 gan orfodi cau'r ffordd. Mae goleuadau wedi bod yn rheoli'r traffig ers hynny.