Newyddion S4C

Siarad Cymraeg ‘yn fantais’ ar The Traitors medd un o'r ymgeiswyr newydd

Elen

Mae un o’r ymgeiswyr ar gyfres The Traitors eleni wedi dweud ei bod hi’n meddwl y bydd siarad Cymraeg fel iaith gyntaf yn fantais ar y rhaglen.

Bydd Elen Wyn, sy’n 24 oed a bellach yn byw yng Nghaerdydd, ymysg 25 o ymgeiswyr a fydd yn gobeithio ennill £120,000 ar y gyfres a fydd yn dychwelyd ar Ddydd Calan.

Bydd y grŵp o ddieithriaid yn cwrdd mewn castell yn ucheldiroedd yr Alban ac yn cael eu rhannu yn ffyddloniaid (faithful) a bradwyr (traitors), gyda’r cyntaf yn ceisio darganfod pwy yw’r ail cyn i bob un gael eu ‘llofruddio’.

Dywedodd Elen, sy’n gyfieithydd, ei bod hi’n credu y bydd yn “dda iawn yn chwarae’r gêm”.

“Saesneg yw fy ail iaith, a’r Gymraeg yw fy iaith gyntaf,” meddai.

“Oherwydd hyn, dydw i ddim yn gallu mynegi fy hun mewn geiriau gystal yn Saesneg ag ydw i yn y Gymraeg.

"Mae pobl yn tueddu i gysylltu hynny â bod ychydig yn dwp.

“Bob tro dwi'n cymysgu gyda phobl Saesneg eu hiaith, maen nhw'n dueddol o fy niystyru i.

“Ond dyw’r hyn mae pobl yn ei weld ar y tu allan ddim mewn gwirionedd yn cynrychioli'r hyn sy'n digwydd y tu mewn.

“Mae hynny’n rhywbeth rwy’n teimlo y gallai fod o fantais i fi yn y castell.”

Dywedodd Elen ei bod yn hyfforddi i fod yn ganwr opera. Fe wnaeth hi gystadlu yn Unawd mezzo / contralto / gwrth-denor 19 ac o dan 25 oed yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

"Rydw i wedi arfer perfformio, sy'n golygu gwisgo math o fwgwd," meddai.

"Dydw i ddim yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain eto, ond dyna'r freuddwyd."

Image
Leanne
Leanne

‘Profiad gwell’

Mae Elen yn un o ddwy Gymraes ar y rhaglen eleni, gyda Leanne sy’n gyn filwr 28 oed o Dreffynnon yn Sir y Fflint hefyd yn cymryd rhan.

Dywedodd y byddai yn gwario’r arian pe bai yn ennill ar driniaeth IVF.

“Fe fyddwn i wrth fy modd yn mynd trwy IVF eto,” meddai.

“Es i drwy IVF gyda fy mechgyn, ac roeddwn i'n wael iawn trwy gydol fy meichiogrwydd. Dim ond 26 wythnos oedd y bechgyn pan gawson nhw eu geni.

“Pan ddaethon nhw adref o'r ysbyty ar ôl tri mis, maen nhw'n dod adref ar ocsigen, ac roedd hi'n anodd mynd â nhw allan.

“Byddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i gael babi arall, a gobeithio cael ychydig o brofiad gwell.”

Bydd The Traitors ar BBC One am 20.00 Ddydd Calan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.